BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Mawrth 2007, 11:14 GMT
ApÍl sinema yn llwyddo
Sinema'r Coliseum, Porthmadog
Mae'r apÍl wedi codi £14,000

Dal ar agor mae sinema annibynnol olaf Gwynedd a hynny ar Űl apÍl i'w gadw.

Roedd y gwirfoddolwyr lleol wedi gobeithio codi £10,000 i gadw'r Coliseum ym Mhorthmadog ar agor,

Ond maen nhw wedi llwyddo i godi £14,000 ar gyfer prosiectau i gynnal a chadw'r adeilad gan gynnwys trwsio boiler y sinema a gwella'r adeilad.

Wedi i sinema'r Plaza ym Mangor gau mae 200 o seddi "sy bron yn newydd" wedi cael eu prynnu i gymryd lle y seddi lan llofft.

"Pan wnaethon ni lansio'r apÍl fis Medi'r llynedd y bwriad oedd codi digon o arian i gadw'r sinema ar agor am flwyddyn o leiaf," meddai cyfarwyddwr gwirfoddol y sinema Emyr Williams.

"Rydan ni wedi llwyddo i wneud hynny.

"Fe ddywedodd rhai pobl ein bod yn gwastraffu amser, ond rydan ni wedi eu profi nhw'n anghywir.

ApÍl am fynychwyr

"Yna clywsom ni fod y seddi a gymerwyd allan o sinema'r Plaza cyn iddi gael ei dymchwel mewn storfa ym Manceinion."

Roedd ganddyn nhw arian yn y banc ac roedd yn gyfle rhyw dda i'w golli gan fod seddi'r Coliseum wedi dirywio.

Ond mae'r criw o wirfoddolwyr yn apelio am i fwy o bobl fynd i'r sinema i weld ffilmiau.

Mae nifer o unigolion a busnesau lleol wedi cyfrannu tuag at y gronfa.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei wario ar roi wyneb arall ar y maes parcio, paentio y tu fewn i'r sinema a rhoi carped newydd.

"Rydym mewn sefyllfa fwy cadarn, digon i'r gefnogaeth leol," ychwanegodd Mr Williams.




HEFYD
Sinema: 'Nid y diwedd'
07 Rhag 06 |  Newyddion
ApÍl i gadw sinema ar agor
16 Tach 06 |  Newyddion
Cynlluniau newydd i hen sinema
27 Hyd 05 |  Newyddion
Gwylnos i achub hen sinema
09 Tach 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^