BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 28 Chwefror 2007, 15:20 GMT
Jc: Morgan o dan y lach
Rhodri Morgan
Llefarydd: 'Y jc yn hen'
Mae'r Prif Weinidog Rhodri Morgan wedi cael ei feirniadu oherwydd ei jc am Ian Paisley, arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

Dywedodd Mr Morgan fod Dr Paisley wedi troi'n Babydd cyn marw oherwydd y byddai'n well colli Pabydd na Phrotestant.

Mae llefarydd ar ran Mr Morgan wedi dweud nad oedd am dramgwyddo neb wrth adrodd 'hen' jc mewn cinio cyn dechrau cynhadledd y Blaid Lafur Gymreig yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd fod y jc yn "ddi-chwaeth" ond na fyddai Dr Paisley yn gwneud sylw.

"Nid oedd yn sylw y byddai disgwyl i Brif Weinidog unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol ei wneud.

"Buasen ni'n disgwyl i Brif Weinidog Cymru ddewis ei eiriau'n fwy gofalus a pheidio chodi gwrychyn."

Hain a Blair

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gogledd Iwerddon Peter Hain a'r Prif Weinidog Tony Blair yn y cinio mewn gwesty yn Llandudno.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhodri Morgan: "Roedd y jc Mr Morgan yn hen ac wedi cael ei hadrodd ers amser hir.

"Yn sicr, nid oedd wedi bwriadu tramgwyddo neb."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, sy wedi dweud fod y jc yn "ddichwaeth" ac yn "niweidiol," wedi galw ar Mr Morgan i ymddiheuro.

Ond mae mab Dr Paisley, Ian, wedi chwerthin am ben y jc.

Wrth glywed am yr ymateb i'r jc, dywedodd y dylai gwleidyddion "gael eu geni chromosm ychwanegol" fel bod eu croen yn fwy trwchus.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^