BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 28 Chwefror 2007, 13:37 GMT
Treth: Codi'n fwy yng Nghymru
Llythyr Treth Cyngor (Llyfrgell)
Mwy o fil i drethdalwyr Cymru

Ar gyfartaledd bydd cynnydd biliau treth y cyngor yng Nghymru'n fwy na biliau pobl Lloegr.

Dyna gasgliad arolwg Sefydliad Ariannu Cyhoeddus a Chyfrifon.

Fe fydd bil treth Band D yn codi 45 ar gyfartaledd yn y flwyddyn ariannol nesaf, hynny yw 4.7% yn uwch na threthdalwyr tai o'r un gwerth yn Lloegr.

Hwn yw'r cynnydd trydydd lleia yn y 13 blynedd diwethaf, meddai Sefydliad y Siartarwyr a Chyfrifwyr.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod rhaid i gynghorau gadw'r cynnydd o dan 5%.

"Fe fydd hwn yn cael ei ystyried yn gam bositif yn Whitehall ac mewn neuaddau tref yng Nghymru," meddai Steve Freer, prif weithredwr y sefydliad.

'Bargen dda'

"Dyw cynghorau ddim am ffrae 'r llywodraeth."

Mae Steve Thomas, prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi croesawu'r cynnydd a dweud fod hon yn "fargen dda" i'r cyhoedd.

"Mae nifer o awdurdodau yn ceisio cadw'r trethi yn isel.

"Ac mae'r dyddiau gwael pan oedd cynnydd o 15 a 20% wedi hen fynd."

Dywedodd Mr Thomas fod arian llywodraeth leol wedi cael ei wario'n effeithiol.

Bu targed cynilo o 40 miliwn a chafodd 80 miliwn eu cynilo, meddai.

"Mae llywodraeth leol yn ceisio cadw'r costau i lawr ac mae hyn yn newyddion da i'r trethdalwyr."

Dywedodd Llywodraeth Cynulliad Cymru fod y cynghorau yn derbyn 3.7 biliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^