BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 26 Chwefror 2007, 20:35 GMT
Ffatri gaws: Colli 44 swydd
Cheese processing generic
Bydd y cwmni yn cynnal cyfnod o 30 diwrnod o ymghynghori â'i staff.
Bydd 44 o weithwyr ffatri gaws yn Felinfach ger Llambed yn colli eu gwaith am fod y ffatri yn Nyffryn Aeron yn cau.

Mae'r cwmni sy'n berchen y safle wedi dweud y bydd 30 diwrnod o ymgynghori.

Clywodd staff ffatri gaws Aeron Valley eu bod yn colli gwaith ddydd Llun.

Dywedodd y perchnogion Lactalis McLelland mai'r rheswm oedd colledion cynyddol ond y gallai rhai o'r staff gael cynnig gwaith yn yr Alban.

Yn ôl Matt Glover, un o gyfarwyddwyr Lactalis McLelland, roedd y cwmni wedi edrych ar bob opsiwn cyn penderfynu cau.

"Mae hyn yn arbennig o drist oherwydd roedd tîm gwych yn yr hufenfa, sydd wedi gwneud eu gorau glas ers i ni brynu Aeron Valley ychydig dros ddwy flynedd yn ôl.

Camau cyfreithiol

"Serch hynny, er gwaethaf buddsoddiad yn y ffatri ac ymdrechion arbennig y staff, mae'r colledion wedi parhau i gynyddu."

Dywedodd AC Ceredigion Elin Jones y byddai'r cau yn "effeithio'n andwyol" ar gymuned Felinfach ac y byddai'n codi'r pwnc ar lawr y Senedd ddydd Mawrth.

Collodd 115 eu gwaith pan gaeodd ffatri brosesu caws Dairygold yn Felinfach ym mis Ebrill 2006.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd cwmni Dairygold rybudd y gallai Llywodraeth y Cynulliad gymryd camau cyfreithiol er mwyn cael arian cyhoeddus yn ôl oddi wrth y cwmni.

Cafodd y cwmni o Iwerddon £663,528 yn 2002 er mwyn ehangu'r gwaith prosesu.




HEFYD
Rhybudd am grant o £663,000
19 Chwef 07 |  Newyddion
'Oedi' cwmni caws o dan y lach
02 Chwef 07 |  Newyddion
Ffatri gaws: Camau cyfreithiol?
25 Medi 06 |  Newyddion
Ffatri gaws: Poeni am daliadau
25 Medi 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^