BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 26 Chwefror 2007, 16:37 GMT
Doc Fictoria: 'Pryderon'
Doc Fictoria
Yr adeiladau: Ger Doc Fictoria
Mae rhai'n poeni pa mor fawr yw canolfan siopa a thai sy'n costio £27m yng Ngwynedd.

Dywedon nhw eu bod yn synnu at faint y datblygiad yn Noc Fictoria yng Nghaernarfon.

Maen nhw wedi honni y bydd ymwelwyr yn osgoi canol y dre ac y bydd llai'n mynd i adeiladau hanesyddol, gan gynnwys y castell.

Eto mae'r rhai o blaid y datblygu wedi dweud y bydd yn "hwb i econom'r dre".

"Dwi'n poeni y bydd pobl dim ond yn mynd i weld Doc Fictoria," meddai Miriam Jones o'r Siambr Fasnach.

"Mae maint y lle wedi synnu llawer ... doedd neb yn sylweddoli pa mor fawr y byddai."

"Ac mae maint y lle tu fewn yr un fath â'r holl siopau yn y stryd fwya prysur."

Dywedodd yr AC Alun Ffred Jones fod y datblygiad yn "fwy na beth yr oeddwn i'n feddwl yn wreiddiol.

"Ond dyw'r adeilad ddim yn llawer mwy nag adeilad y Galeri y drws nesa ac yn debyg i'r hen stordy sy erbyn hyn yn archifdy."

Ystyriodd Llywodraeth y Cynulliad y cynlluniau gwreiddiol wedi i Cadw fynegi pryderon.

Pan gafodd cynlluniau newydd eu cyflwyno penderfynwyd fod hwn yn fater lleol ar gyfer Cyngor Gwynedd.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^