Roedd y galwadau yn ymwneud ag iselder a phroblemau iechyd meddwl
|
Roedd un o bob chwe galwad i ChildLine yng Nghymru'r llynedd oedd yn ymwneud ag iechyd meddwl oddi wrth ferched yn sôn am ladd eu hunain.
Mae ymchwil yr elusen yn dangos bod rhai merched wedi cysylltu â nhw wrth geisio lladd eu hunain.
Yn ystod y flwyddyn cafodd y gwasanaeth fwy na 1,000 o alwadau yn ymwneud ag iechyd meddwl.
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn poeni am nifer y bobl ifanc yng Nghymru sy'n lladd eu hunain a dywedodd eu bod yn ceisio delio â'r problemau..
Mae ChildLine am gael mwy o arian ar gyfer gwasanaethau plant.
Dywedodd yr elusen fod un o'i weithwyr wedi helpu achub bywyd merch ifanc oedd wedi cymryd gorddos o gyffuriau.
Roedd y ferch yn ei hystafell wely a'i rhieni i lawr grisiau a ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.
Esgeuluso
Gyda chaniatâd y ferch cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac achub y ferch.
Roedd cyfanswm o 157 o alwadau hunanladdiad i ganolfannau ChildLine yn Y Rhyl ac Abertawe oddi wrth ferched a 36 oddi wrth fechgyn.
Er gwaetha'r nifer uchel o alwadau, mae ystadegau'n dangos fod y nifer fwya sy'n lladd eu hunain rhwng 15 a 21 oed - a thair gwaith yn fwy o fechgyn.
Dywedodd Jonathan Green, rheolwr ChildLine yng Nghymru, fod angen i Lywodraeth y Cynulliad roi mwy o arian at wasanaeth iechyd meddwl ac nad oedd digon o wasanaethau therapiwtig i blant.
"Pan mae pobl ifanc yn siarad am ladd eu hunain maen nhw mewn gwewyr meddwl.
"Maen nhw wedi cyrraedd pen eu tennyn a heb neb arall i droi ato."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn "edrych ar sawl agwedd" fel bod modd i bobl ifanc gyrraedd gwasanaethau.
Fe fyddan nhw'n holi barn am strategaeth genedlaethol mewn ysgolion o ran cynghori disgyblion a sicrhau bod darpariaeth ar gael iddyn nhw.
Dywedodd y llefarydd eu bod yn cryfhau gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc ar draws gwasanaethau gofal, iechyd ac addysg.