Mewn arolwg roedd 10% o bobl ifanc wedi cael eu bwlio ar y we
|
Cafodd dau berson yn eu harddegau eu harestio a'u ceryddu gan yr heddlu am "fwlio" ar wefan i bobl ifanc.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y ddau o Hwlffordd wedi gosod lluniau o bobl ar wefan Bebo a chynnwys sylwadau sarhaus.
Rhybuddiodd yr heddlu y bydden nhw'n gweithredu'r un fath eto ac y gallai'r rhai sy'n gyfrifol wynebu gael record droseddol.
Dywedodd yr elusen yn erbyn bwlio, Kidscape, bod bwlio ar y we ar gynnydd a'u bod yn falch o ymateb yr heddlu.
Dywedodd Bebo, sy'n safle rhyngweithiol wedi ei sefydlu yn America, eu bod yn "arwain y maes" yn erbyn bwlio.
"Tydi bwlio ddim yn dderbyniol ym mha bynnag ffurf," meddai'r Sarjant Jill Evans.
Ychwanegodd bod cerydd i berson ifanc gyfystyr a rhybudd i oedolion.
Cynnydd
"Byddwn yn ymdrin ag unrhyw fath o fwlio ac rydym yn annog pobl ifanc i ymddwyn yn gyfrifol ar y we ac i rieni gadw golwg neu bydd ganddyn nhw record," ychwanegodd Ms Evans.
Mewn arolwg gan MSN/YouGov y llynedd dywedodd 10% o bobl ifanc y Deyrnas Unedig eu bod wedi cael eu bwlio ar y we a dywedodd 24% eu bod yn adnabod rhywun gafodd eu bwlio.
"Mae bwlio ar y we ar gynnydd ac mae technoleg newydd yn cael ei ddefnyddio i frifo, pryderu a bwlio plant eraill," meddai Nikki Kerr o Kidscape.
"Gallu hyn fod yn waeth pan nad ydi o'n digwydd wyneb yn wyneb am ei fod yn anhysbys a bod miloedd yn dystion."
Gan fod hyn yn ffurf newydd ac un sy'n datblygu dywedodd nad oes 'na ganllawiau safonol i ymdrin â'r sefyllfa ond roedd yn croesawu ymateb yr heddlu.
"Mae hyn yn beth da os fydd o'n rhybuddio eraill," ychwanegodd.
Y llynedd cyhoeddodd Bebo eu bod wedi gosod mesurau diogelwch newydd gan ddweud ym mis Medi eu bod yn "arwain y maes o ran bwlio".
Maen nhw hefyd wedi cydweithio gyda nifer o elusennau a mudiadau gwrth-fwlio, y Swyddfa Gartref a'r Adran Addysg.