Bydd Llyr Williams yn y cyngerdd i gloi'r Eisteddfod
|
Pianydd o Gymro sy'n cael ei gyfrif ymhlith goreuon y byd fydd yn perfformio yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint yn Yr Wyddgrug fis Awst.
Dyma fydd y tro cyntaf i Llŷr Williams fod yn un o gyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol.
A dim ond unwaith o'r blaen mae wedi bod ar lwyfan y Brifwyl a hynny pan enillodd Ysgoloriaeth Pegi a Maldwyn Hughes yn 1999 ac yntau'n fyfyriwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain.
Fe fydd y tocynnau ar gyfer y cyngerdd a chwech o rai eraill yn mynd ar werth ddydd Iau Mawrth 1.
Roedd Llŷr, sy'n hanu o ardal Rhosllannerchrugog, mewn cyfarfod arbennig yn Yr Wyddgrug i gyhoeddi'r manylion am gyngherddau Eisteddfod ddydd Gwener.
Cydweithio
Fe gafodd y gwahoddedigion, oedd yn cynnwys arweinwyr llywodraeth leol yr ardal, flas ar yr hyn fydd yn eu disgwyl gydag unawd ar y piano gan Llŷr.
Yno hefyd yr oedd un arall o artistiaid yr wythnos, y tenor Rhys Meirion.
Fe wnaeth y ddau ddatganiad.
 |
CYNGHERDDAU EISTEDDFOD 2007
Awst 3: Dylan Cernyw ac Annette Bryn Parri; Dewi Ellis Jones; Cantorion Colin Jones; Côr Hŷn Ieuenctid Sir Fflint; Dawnswyr Nantgarw a Caryl a'r Band.
Awst 4: Sioe plant, "Y Fordaith Fawr"
Awst 5: Cymanfa Ganu dan arweiniad Goronwy Wynne a Tim Stuart wrth yr organ
Awst 6: Dafydd Iwan ac Ar Log yn ddathlu 25 mlynedd
Awst 7: Cyngerdd gan Gôr yr Eisteddfod â thri enillydd Rhuban Glas - Iona Jones, Aled Wyn Davies ac Iwan Wyn Parry a Cherddorfa Ensemble Cymru
Awst 8: Cystadleuaethau
Awst 9: Rhys Meirion yn canu caneuon David Lloyd gyda Chorau Meibion Unedig yr ardal
Awst 10: Cystadleuaethau
Awst 11: Llŷr Williams; y tenor Gwyn Hughes Jones a Cherddorfa Camerata Manceinion
|
"Dyma'r tro cyntaf i Llŷr gyfeilio i mi," meddai ddydd Gwener.
"Gobeithio y cawn wneud hyn eto."
Bydd y cyngerdd gyda Llŷr a'r tenor Gwyn Hughes Jones yn cloi wythnos o weithgareddau yn Yr Wyddgrug.
Fe fydd y perfformiad yn cynnwys Concerto Rhif 2 Rachmaninov, Yr Hebredies - Ogof Fingal a chaneuon gan Meirion Williams.
Bydd Rhys yn canu mewn cyngerdd teyrnged i David Lloyd, yr enwocaf o gantorion Sir Y Fflint, ar y nos Iau.
"Yr oedd o'n arwr mawr i mi - rydw i'n cofio ei lais ar y radio pan oeddwn yn fychan iawn - ar foreau Sul yn gymysg ag arogl y cig yn coginio," meddai'r tenor sy'n byw yn Rhuthun.
Ymhlith y danteithion eraill fe fydd 'na sioe gerdd gan 400 o blant dalgylch yr Eisteddfod a chyngerdd gan Dafydd Iwan ac Ar Log.
Fe fyddan nhw'n dathlu 25 mlynedd o gyd-berfformio.
Yn agor yr Eisteddfod bydd blas lleol i'r cyngerdd agoriadol gyda Dylan Cernyw ac Annette Bryn Parri, Dewi Ellis Jones, Cantorion Colin Jones, Côr Hŷn Ieuenctid Sir Fflint, Dawnswyr Nantgarw a Caryl a'r Band.
Bydd y tocynnau ar gyfer y cyngherddau ar werth o Fawrth 1 ymlaen (rhwng 10am a 4pm ddydd Llun i ddydd Gwener) ar 0845 122 1176.