BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 22 Chwefror 2007, 19:38 GMT
Bom llythyr: Cyhuddo dyn
Heddlu tu allan i gartref Miles Cooper
Heddlu tu allan i gartref Miles Cooper

Mae gofalwr ysgol wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad chyfres o fomiau llythyr sydd wedi cael eu hanfon i gyfeiriadau yng Nghymru a Lloegr.

Mae Miles Cooper, 27 oed, wedi ei gyhuddo o saith trosedd o dan y Ddeddf Sylweddau Ffrwydrol a phum trosedd o dan y Ddeddf Troseddau Corfforol.

Cafodd ei arestio yn Cherry Hinton, Swydd Caergrawnt, ddydd Llun.

Bydd Mr Cooper yn ymddangos o flaen ynadon yn Banbury, Swydd Rhydychen ddydd Gwener.

Mae'r heddlu wedi bod yn archwilio'r ysgol lle mae'n gweithio a'r tŷ yn Teversham ger Caergrawnt.

Mewn cyfnod o dair wythnos cafodd saith bom llythyr eu hanfon i wahanol lefydd gan gynnwys Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, y DVLA, yn Abertawe.

Cydweithio

Anafwyd pedwar o bobl yn y digwyddiad ar Chwefror 7 pan ffrwydrodd bom llythyr yn ystafell bost y DVLA.

Cafodd pump o bobl eraill eu hanafu mewn digwyddiadau eraill.

Plisman tu allan i swyddfa'r DVLA yn Abertawe
Cafodd pedwar o weithwyr eu hanafu yn Abertawe



HEFYD
Bomiau llythyr: Arestio dyn
19 Chwef 07 |  Newyddion
DVLA: Hawliau anifeiliaid?
09 Chwef 07 |  Newyddion
Bom llythyr: Anafu gweithwyr
07 Chwef 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^