Fe wnaeth y ffatri gau ym mis Ebrill 2006
|
Derbyniodd cwmni Dairygold rybudd am gamau cyfreithiol.
Fe gollodd 115 o bobl eu gwaith pan wnaeth ffatri prosesu caws gau yn Felinfach ger Llanbedr Pont Steffan ym mis Ebrill 2006.
Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd camau cyfreithiol er mwyn cael arian cyhoeddus yn ôl gan y cwmni.
Cafodd y cwmni o Iwerddon £663,528 yn 2002 er mwyn ehangu'r gwaith prosesu.
"Dyma'r opsiwn olaf," meddai Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Carwyn Jones.
Dywedodd Dairygold eu bod yn cydweithio i "adfer" y sefyllfa.
Fe gafodd y gwaith ehangu ei gwblhau yn 2004 ond o fewn 18 mis cyhoeddodd y cwmni fwriad i gau.
Ad-dalu'r grant
Fe wnaeth gwaith ymchwil gan raglen materion cyfoes BBC Radio Cymru, Manylu, ganfod bod peiriannau oedd wedi cael eu prynu gyda'r grant, wedi cael eu gwerthi i chwaer gwmni Dairygold, Kerrygold.
Roedden nhw hefyd wedi cael eu symud i waith yn Leek, Swydd Stafford.
Fe wnaeth y Llywodraeth gyhoeddi ym mis Medi y gall dwyn achos cyfreithiol fod yn opsiwn.
"Rydym wedi cael trafodaethau gyda Dairygold ynglŷn ag ad-dalu'r grant," meddai Mr Jones.
"Ond mae'n edrych yn debyg nad oes ganddon ni ddewis arall ond dwyn achos cyfreithiol."
Dywedodd ei fod wedi cysylltu gyda chyfreithwyr y cwmni.
Mewn datganiad dywedodd Dairygold eu bod yn cydweithio gyda'r Llywodraeth.