BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 19 Chwefror 2007, 15:15 GMT
Iwerddon yn dilyn y Criw Bwyd
llysiau
Y bwriad yw newid arferion bwyta plant yn barhaol

Mae pedwar arwr ifanc, Tom, Charlie, Rocco a Raz, a ddatblygwyd ym Mangor, ar fin dod yn gymeriadau cyfarwydd i bob plentyn yn Iwerddon.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Weinidog Amaeth Iwerddon, Mary Coughlan, y bydd cynllun Bwyta'n Iach y Criw Bwyd yn cael ei lansio ym mhob ysgol gynradd yn y Weriniaeth.

Mae'r pedwar arwr, sy'n cael eu hadnabod fel y Criw Bwyd, yn gymeriadau fideo mewn cynllun sy'n annog plant i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau, gyda'r bwriad o newid arferion bwyta plant yn barhaol.

Datblygwyd cymeriadau'r Criw Bwyd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, ac maen nhw'n ennill eu 'grym bywyd' trwy fwyta, ymysg pethau eraill, moron, broccoli a mafon.

Trwy fwyta diet iach mae'r Criw Bwyd yn trechu eu gelynion, y 'Junk Punks'.

Mae cynllun y Criw Bwyd, sy'n cael ei gyflwyno i blant 4-11 oed mewn ysgolion dros gyfnod o 16 diwrnod, yn annog plant i samplo amrywiaeth ehangach o ffrwythau a llysiau.

Mae'r cynllun wedi cael ei dreialu'n llwyddiannus mewn 150 o ysgolion yn Iwerddon, ac yn awr mae Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y dylid cyflwyno'r Criw Bwyd i bob un ysgol gynradd yn Iwerddon dros y 7 mlynedd nesaf.

Tasglu Gordewdra Cenedlaethol

Mae'r Tasglu Gordewdra Cenedlaethol yn Iwerddon eisoes wedi nodi bod bwyta rhy ychydig o ffrwythau a llysiau yn broblem.

"Rydym ni wrth ein bod Llywodraeth Iwerddon wedi bod yn ddigon craff i fabwysiadu'r cynllun Criw Bwyd" meddai'r Athro Fergus Lowe, sy'n arwain yr ymchwil Criw Bwyd ym Mangor.

"Bydd y cynllun yn bwysig yn y frwydr i ddatrys problem gynyddol gordewdra.

"Gellir defnyddio'r cynllun ar raddfa fawr, ar draws gwledydd i wella iechyd yn awr ac yn y dyfodol.

"Mae'r cynllun Criw Bwyd yn gweithio trwy ddarparu modelau cymdeithasol dylanwadol tebyg o ran oed i blant eu dynwared."

Meddai Vincent Dolan, Ysgrifennydd Fresh Produce Ireland: "Rydym yn llongyfarch llywodraeth Iwerddon am fod yn ddigon craff i gymryd cam ystyrlon, ymarferol tuag at newid go iawn mewn diet.

"Gyda'i ffocws ar yr ystafell ddosbarth a'r cartref, mae'r cynllun Criw Bwyd yn symud y tu hwnt i gynlluniau cosmetig ddoe ac yn ddatblygiad cyffrous yn y broses o hyrwyddo'n cynnyrch."

Mae 98.8% o rieni yn Iwerddon yn croesawu datblygiad o'r fath.




HEFYD
'Colli blas': £190,000 arall
09 Tach 06 |  Newyddion
Cinio ysgol 'mewn perygl'
31 Hyd 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^