BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Chwefror 2007, 13:21 GMT
'Rhowch larwm yn eich cartre'
Safle'r tn yn Minffordd, Bangor
Dywed y gwasanaeth nad oes "esgus" rhag cael larwm yn y tai

Annog pobl i roi larwm mwg yn eu cartrefi y mae'r gwasanaeth tn ar l marwolaeth dyn ger Bangor.

Cafodd y gwasanaeth eu galw i'r tŷ henb larwm ym Minffordd.

Roedd bwyd yn cael ei goginio yn y gegin ond neb yn cadw llygad arno.

Ers Ebrill 2006 mae 10 wedi cael eu lladd mewn tai yn y gogledd mewn tanau damweiniol.

Mae'r nifer yn llawer uwch nag ardaloedd eraill Cymru - dim ond un farwolaeth yn y canolbarth ac un yn y de.

Ar l marwolaeth y dyn 26 oed tua 1130am ddydd Sul mae'r gwasanaeth wedi apelio eto at bobl i osod larymau mewn tai.

'Manteision'

Cafodd y gwasanaeth eu galw i ddau ddigwyddiad arall dros y penwythnos, un ym Mhwllheli a'r llall yn Wrecsam, ar l i larymau mwg helpu pobl i ddianc yn ddianaf.

"Mae amgylchiadau'r ddau achos yn profi y gallai larymau mwg achub bywyd," meddai Gary Brandrick, rheolwr datblygu Gwasanaeth Tn y Gogledd.

"Bob dydd rydan ni'n pwysleisio manteision y larymau."

Dywedodd nad oedd esgus am beidio chael larwm gan fod y gwasanaeth diogelwch cartref yn rhad ac am ddim yn cynnig gosod larwm.

Os ydych am gyngor neu arolwg gallwch chi ffonio'r gwasanaeth ar 0808 1002 863.




HEFYD
Marwolaeth: Tn ar l coginio
12 Chwef 07 |  Newyddion
Pennaeth: 'Gormod o danau marwol'
03 Tach 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^