BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 12 Chwefror 2007, 16:10 GMT
Trafod diogelwch y DVLA
Swyddfa'r DVLA yn Abertawe
Mae tua 4,000 o weithwyr yn y DVLA yn Abertawe

Yr wythnos hon bydd trafodaethau am ddiogelwch staff canolfan drwyddedu'r DVLA yn Abertawe.

Ffrwydrodd bom llythyr yn ystafell bost yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd swyddogion undeb y bydden nhw'n sicrhau bod y 4,000 o staff a staff yr ystafell bost yn fodlon ar y trefniadau newydd.

Cafodd pedwar o bobl eu hanafu ddydd Mercher.

Mae undeb y y PCS wedi dweud fod rheolwyr DVLA wedi ymateb i'w holl bryderon hyd yn hyn.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n ymchwilio i saith bom llythyr anfonwyd i fusnesau a sefydliadau ers Ionawr 18.

Llosgiadau

Dyw dyn 48 oed, gafodd ei holi gan yr heddlu ar ôl dweud wrth orsaf radio ei fod wedi anfon un o'r dyfeisiadau, ddim yn rhan o'r ymholiadau erbyn hyn.

Cafodd ddynes losgiadau ddydd Mercher yn Abertawe.

A chafodd dau ddyn driniaeth am sioc a ddynes driniaeth am nad oedd yn gallu clywed yn iawn.

"Mae 'na drafodaethau wedi digwydd bob dydd ers y digwyddiad," meddai Peter Harris, swyddog undeb y PCS yng Nghymru.

"Dwi'n fodlon ar yr hyn sydd wedi digwydd ddydd Iau a dydd Gwener."

Dywedodd fod adolygu'r sefyllfa'n bwysig.

Mae'r heddlu wedi rhybuddio pawb i fod yn ofalus oherwydd y posibilrwydd o fwy o lythyrau bom.




HEFYD
DVLA: Hawliau anifeiliaid?
09 Chwef 07 |  Newyddion
Bom llythyr: Anafu gweithwyr
07 Chwef 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^