Mae Dafydd ap Gwilym yn un o feridd mawr Cymru
|
Mae gwefan ar waith bardd canoloesol enwocaf Cymru wedi cael ei lansio mewn cynhadledd yn Abertawe.
Mae'r gynhadledd yn nodi diwedd Prosiect Dafydd ap Gwilym, a ariannwyd am bum mlynedd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, er mwyn cyflwyno gwaith y bardd Cymraeg i gynulleidfa ehangach.
Datblygwyd y wefan gan dīm o academyddion o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd, ac mae'n cynnwys golygiad newydd o'i farddoniaeth a fydd yn cynnig testunau gwell a dehongliadau newydd o'r cerddi hynod gymhleth hyn.
Mae'n sicrhau hefyd bod y cerddi o fewn cyrraedd cynulleidfa ehangach, Cymraeg a Saesneg ei hiaith, trwy gynnig aralleiriadau mewn Cymraeg modern a chyfieithiadau Saesneg o'r holl gerddi.
170 o gerddi
Mae'r golygiad gorffenedig yn cynnwys 170 o gerddi, a hefyd nodiadau manwl ar bob cerdd, trawsgrifiadau o'r prif destunau llawysgrif a delweddau wedi'u digideiddio o'r llawysgrifau cynharaf, yn ogystal ā darlleniadau wedi'u recordio o bob cerdd.
Ceir rhagymadrodd sylweddol hefyd sy'n trafod bywyd a chefndir y bardd, ac yn rhoi'r cerddi mewn cyd-destun llenyddol Cymreig ac Ewropeaidd.
Bu Dafydd ap Gwilym yn byw o amgylch Llanbadarn Fawr
|
Rhoddir sylw penodol i ddwy gerdd Dafydd ap Gwilym sydd ar faes llafur safon uwch Cymraeg, gan gynnwys esboniad gweledol o'u cynghanedd.
Mae'r gynhadledd hefyd yn cynnwys cyngerdd 'Byd Sain Dafydd ap Gwilym' yng Nghanolfan Dylan Thomas yn dechrau am 8pm nos Fercher. Bydd datganiadau o rai o gerddi Dafydd ap Gwilym i gyfeiliant telyn, a pherfformiadau o geinciau telyn o lawysgrif Robert ap Huw.
Cyfansoddodd Dafydd ap Gwilym gerddi Cymraeg am gariad a natur yng nghanol y 14eg ganrif.
Caiff ei ystyried fel bardd Cymraeg mwyaf Cymru ac mae'n ffigwr pwysig yn llenyddiaeth Ewropeaidd y canoloesoedd.