Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar faterion y dydd. Mae croeso i chi anfon eich sylwadau aton ni isod.
Dydd Llun, Chwefror 12
Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir. Dyna pryd y bydd y Frenhines (fwy na thebyg) yn teithio i Gaerdydd i agor y trydydd cynulliad. Fe fydd gan y corff ei bwerau newydd ac, os yw'r Llywydd yn cael ei ffordd, ei arfbais llywodraethol o lewod Llywelynaidd.
Dwi wedi trafod droeon pwy sy'n debygol o fod yn aelodau o'r cynulliad hwnnw. Nid dyna fy mwriad y tro hwn ond ar ôl gweld polio mewnol dwy o'r pleidiau, oedd â chanlyniadau digon tebyg i'w gilydd, fe wna i fentro dweud hyn. Ar hyn o bryd mae pethau'n edrych yn ddu iawn i Lafur tra bod 'na le i Blaid Cymru a'r Torïaid deimlo'n hyderus.
Ond pwy bynnag sy'n ffurfio llywodraeth ym Mehefin, mae 'na gyfres o dasgiau anodd o'u blaenau; rhai llawer anoddach na'r rheiny sydd wedi wynebu'r ddau gynulliad cyntaf.
Diffyg adnoddau
Yn gefndir i'w holl benderfyniadau y bydd y setliad ariannol a Llundain.
Mae hi eisoes yn hysbys bod dyddiau'r cynnydd mawr mewn gwariant cyhoeddus ar ben. Os yw'r llywodraeth newydd yn dymuno cyflwyno cynlluniau neu wasnaethau newydd, bydd rhaid dod o hyd i'r arain angenrheidiol o rannau eraill o'r gyllideb.
Ond nid llunio cyllideb fydd tasg anodda'r llywodraeth newydd. Bydd hi'n etifeddu'r dasg o ad-drefnu gwasnaethau iechyd Cymru, tasg y mae'r cynulliad presennol wedi gwneud cymaint o lanast ohoni.
Roedd credu ei bod hi'n bosib ad-drefnu darpariaeth ysbytai Cymru ar drothwy etholiad yn dangos naifrwydd anghyffredin ar y meiniciau Llafur, yn enwedig gan fod nifer o'r ysbytai dan sylw mewn etholaethau ymylol iawn megis Aberconwy a Llanelli.
Roedd maint y difrod etholiadol posib yn amlwg yn natganiad Brian Gibbons i'r cynulliad wrth gyhoeddi ymchwiliad i'r cynlluniau yn Llanelli. O fewn ychydig funudau fe lwyddodd Dr Gibbons i enwi'r aelod lleol Catherine Thomas un ar bymtheg o weithiau mewn ymdrech i sicrhau nad oedd yr aelod lleol yn cael ei beio am y cynlluniau er mai ei phlaid hi sy'n llywodraethu.
'Penderfyniad dewr'
Mae ad-drefnu ysbytai yn enghraifft berffaith o'r hyn yr oedd Syr Humphrey yn ei alw'n "benderfyniad dewr" ar raglen Yes Minister ers talwm - hynny yw penderfyniad amhoblogaidd iawn.
Ac mae unrhyw gynllun i newid y gwasanaethau mewn ysbyty arbennig bron cynddrwg ag arteithio cathod bach yng ngolwg rhai o'r cyhoedd ac mae manteisio ar yr ymateb hwnnw yn ormod o demtasiwn i'r gwrthbleidiau.
Serch hynny, mae cytundeb cyffredinol nad yw'r ddarpariaeth iechyd bresennol yn addas nac yn gynaladwy a bydd rhaid i'r llywodraeth newydd ymrafael â'r sefyllfa o fewn byr o dro. Gallai mis mêl y llywodraeth nesaf fod yn fyr iawn.
Os oes gennych chi sylw gallwch ein e-bostio isod.
Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.