BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Chwefror 2007, 10:18 GMT
Bom llythyr: Anafu gweithwyr
Heddlu y tu allan i swyddfa'r DVLA yn Abertawe
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal

Cafodd pedwar gweithiwr eu hanafu wedi i fom llythyr ffrwydro yng nghanolfan drwyddedu'r DVLA yn Abertawe.

A chafodd y pedwar o Abertawe driniaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys alwad oddi wrth yr Asiantaeth Drwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Nhreforys, Abertawe, am 9.20am ddydd Mercher.

Roedden nhw yno mewn pum munud wedi i fom llythyr ffrwydro yn yr ystafell bost.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans i ddau gael triniaeth yn y fan a'r lle am eu bod yn diodde o effeithiau sioc.

Trydydd ymosodiad

Mae'r asiantaeth, sy'n cyflogi 4,000, yn cadw cofnodion gyrwyr a cherbydau ac yn gyfrifol am ddiogelwch ffyrdd. Yno mae gyrwyr yn adnewyddu eu trwyddedau.

Dywedodd yr heddlu mai hwn oedd y trydydd ymosodiad o fewn tridiau ar gwmnoedd oedd yn gysylltiedig neu'n delio chofnodion gyrwyr.

Cafodd dau weithiwr anafiadau ar eu dwylo a'u cyrff yn swyddfa Vantis yn Wokingham ddydd Mawrth.

Dydd Llun cafodd gweithiwr ei anafu yn swyddfa Capita sy'n gyfrifol am system codi tl tagfeydd Llundain.

'Pryderus'

Dywedodd John Reid, yr Ysgrifennydd Cartref, fod y digwyddiadau yn "bryderus".

A dywedodd Alun Cairns, AC Ceidwadol Gorllewin De Cymru, ei fod yn cydymdeimlo 'r fenyw yn yr ysbyty ac yn anfon dymuniadau gorau ati.

Byddai'n trefnu cyfarfodydd 'r DVLA, yr heddlu a staff, meddai, er mwyn trafod "gwarchod staff yn y gweithle".




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^