BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Chwefror 2007, 14:57 GMT
Cyflwyno deiseb deddf iaith
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Fe fydd y ddeiseb yn cael ei gyflwyno gan y Gymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno deiseb i Lywodraeth y Cynulliad ag arni dros 10,000 o enwau pobl sydd yn cefnogi cael Deddf Iaith newydd.

Mae'r ddeiseb yn rhan o ymgyrch sefydlu deddf iaith newydd.

Roedd Hywel Williams AS ac Ieuan Wyn Jones AC o Blaid Cymru; Eleanor Burnham AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis AC o'r Blaid Geidwadol yn bresennol i fod yn dystion i'r cyflwyniad.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn fodlon ar y ddeddfwriaeth bresennol.

Ond fe wnaeth Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant, gytuno ar ddiwedd dadl flynyddol Iaith Pawb i adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol fel rhan o adolygiad Iaith Pawb.

Yn ogystal chyflwyno'r ddeiseb, bu Mr Williams yn cyflwyno copi o Ddrafft Mesur Iaith y Gymdeithas i'r ACau.

Dyma weithred symbolaidd a fydd yn arwydd o gred y Gymdeithas mai Deddf Iaith Newydd ddylai fod y ddeddf gyntaf i gael ei phasio gan Lywodraeth y Cynulliad wedi iddi dderbyn ei phwerau deddfu newydd ym mis Mai.

'Consensws cenedlaethol'

"Ers dros flwyddyn bellach mae'r consensws cenedlaethol, trawsbleidiol ymhlith gwleidyddion y gwrthbleidiau ac arbenigwyr iaith dros Ddeddf Iaith Newydd wedi dod yn amlwg i bawb," meddai Catrin Dafydd ar ran y gymdeithas.

"Mae cyflwyno'r ddeiseb yma yn brawf fod pobl ar lawr gwlad Cymru am weld yr iaith Gymraeg yn derbyn statws swyddogol.

"Maen nhw am weld hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd yn cael eu diogelu."

Ychwanegodd bod Llywodraeth y Cynulliad wedi dewis anwybyddu'r consensws trawsbleidiol ymysg y gwrthbleidiau.

"Mae'r ffaith eu bod nawr hefyd yn anwybyddu barn pobl Cymru trwy wrthod bod yn bresennol yn y cyflwyniad yn dangos dirmyg llwyr," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Rydym yn hapus fod y ddeddfwriaeth gyfredol yn ddigon cadarn yn ei ffurf bresennol i ateb yr her sy'n wynebu'r iaith Gymraeg.

"Rydym wedi buddsoddi'n hael yn yr iaith Gymraeg ac yn gwneud cynnydd da, ond dim ond trwy gydweithredu a chael cymorth ac ewyllys da mwyafrif pobl Cymru y gellir llwyddo i sicrhau bod Cymru'n wlad wirioneddol ddwyieithog."




HEFYD
Iaith: 'Consensws yn datblygu'
25 Ion 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^