Cafodd y cwmni arian cyhoeddus i ddatblygu'r safle yn 2002
|
Mae Aelod Seneddol wedi beirniadu'r amser y mae cwmni o Iwerddon wedi ei gymryd i ad-dalu £660,000 o arian cyhoeddus ar ôl iddyn nhw gau ffatri yng Ngheredigion.
Fe roddodd cwmni Dairygold y gorau i gynhyrchu caws yn eu ffatri yn Felinfach ger Llambed yn Ebrill a diswyddo 115.
Ym Medi rhybuddiodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai'n cymryd camau cyfreithiol os na fyddai'r cwmni'n ad-dalu arian cyhoeddus roddwyd i ehangu'r busnes.
Mae Aelod Seneddol Ceredigion Mark Williams wedi dweud fod y cwmni'n "cymryd gormod o amser".
Ond dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn ffyddiog y byddai'r mater yn cael ei ddatrys yn fuan.
Cafodd gwaith ehangu'r ffatri ei orffen ym Mawrth 2004 ond 18 mis yn ddiweddarach cyhoeddodd y cwmni y byddai'r safle'n cau.
Datgelodd rhaglen Manylu BBC Radio Cymru fod y peiriannau gafodd eu prynu ag arian cyhoeddus wedi eu symud i ffatri arall yn Swydd Stafford.
Yn ôl Mr Williams, roedd yn warthus "fod blwyddyn wedi mynd heibio a dim golwg o'r arian."
Dywedodd Dairygold eu bod yn hyderus y byddai'r mater yn cael ei ddatrys cyn bo hir.