Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar faterion y dydd. Mae croeso i chi anfon eich sylwadau aton ni isod.
Dydd Gwener, Chwefror 2
Gyda streic y gweision sifil yn ei thorri yn ei hanner mae hon wedi bod yn wythnos ryfedd yn y Cynulliad ond fe gafwyd un datblygiad hynod ddiddorol yn y siambr; datblygiad sy'n awgrymu bod Llafur wedi penderfynu newid eu tactegau ar gyfer etholiadau mis Mai.
'Dwi wedi nodi droeon mai bwriad gwreiddiol y blaid oedd ceisio dylunio'r frwydr fel un rhwng Llafur a'r Torïaid gyda'r mantra "vote Plaid get the Tories" yn cael ei hadrodd a'i hailadrodd ar bob achlysur posib. Ond fe dderbyniodd y strategaeth honno glec cyn y Nadolig pan gafwyd ffrae agored a ffyrnig rhwng y ddwy brif wrthblaid ynglŷn â chyllideb llywodraeth y cynulliad.
Roedd 'na rai o fewn y Blaid Lafur, yn enwedig aelod Rhondda, Leighton Andrews, yn awyddus i barhau a'r strategaeth. Mewn araith dair wythnos yn ôl mynnodd Mr Andrews fod yna "beryg go iawn y bydd Cymru yn baglu i mewn i lywodraeth o dan arweinyddiaeth Geidwadol".
Mae'n arwyddocaol efallai mai Mr Andrews oedd yn gyfrifol am gwestiwn yn y cynulliad sy'n awgrymu bod y dacteg honno bellach wedi ei chladdu. Holi am bwysigrwydd gwariant ar amddiffyn i economi Cymru oedd Mr Andrews ond roedd hi'n amlwg mai rhoi cyfle i'r gweinidog ymosod yn uniongyrchol ar Blaid Cymru oedd ei fwriad.
Yn ei ateb achubodd y Gweinidog Menter, Andrew Davies, ar ei gyfle gan restru camweddau honedig Plaid Cymru o ddyddiau llosgi'r ysgol fomio ymlaen. Nid dyna oedd diwedd pethau. Cafwyd cyfres o gwestiynau gan aelodau Llafur oedd wedi eu cynllunio i gymell ymosodiadau ar Blaid Cymru. Anghofiwch y Torïaid, y Cenedlaetholwyr yw'r targed bellach.
Newid tactegau?
Yr esboniad amlwg am yr hyn a ddigwyddodd yn y sesiwn oedd bod Llafur wedi newid, neu o leiaf addasu, eu strategaeth etholiadol ond awgrymodd un aelod cynulliad esboniad arall gan weld arwyddocâd arbennig yn y ffaith mai Andrew Davies oedd y gweinidog oedd yn gwneud yr ymosod.
Yn ôl y ddamcaniaeth hon dryllio unrhyw son am glymblaid bosib â Phlaid Cymru oedd y nod; ymdrech i gyfleu teimladau sawl aelod Llafur y byddai bod yn wrthblaid yn fwy derbyniol iddynt na chynghreirio â'r Cenedlaetholwyr.
Pa bynnag esboniad sy'n gywir roedd y sesiwn yn brawf pellach o bryder Llafur ynglŷn ac etholiadau mis Mai a chyda newyddion drwg o San Steffan yn ddigwyddiad dyddiol bron cynyddu mae'r pryderon hynny.
Os oes gennych chi sylw gallwch ein e-bostio isod.
Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.