BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 31 Ionawr 2007, 18:06 GMT
Cynllun gorsaf bwer £400m
Safle sydd wedi neilltuo ar gyfer pwerdy nwy
Yn ō y cwmni bydd y pwerdy newydd wedi ei gwblhau erbyn 2010
Mae pwyllgor cynllunio wedi pleidleisio ddydd Mercher o blaid codi gorsaf bwer £400m ar lannau afon Wysg yng Nghasnewydd.

Nod cwmni Carron Energy yw codi gorsaf bwer fydd yn llosgi nwy ger Gorsaf Bwer Glannau Wysg.

Dywed y cwmni y bydd 85 o swyddi parhaol a 600 o swyddi adeiladu.

Ond bydd angen i'r Adran Masnach a Diwydiant roi caniatād cynllunio terfynol i'r prosiect.

Fe wnaeth Carron Energy brynu Pwerdy Glannau Wysg, sy'n llosgi glo, ym Mehefin 2004.

Cafodd cynlluniau'r cwmni i godi gorsaf bwer fydd yn llosgi nwy eu datgelu 18 mis yn ōl.

Ddydd Mercher pleidleisiodd pwyllgor cynllunio Casnewydd o blaid y cynllun.

Byddai'r orsaf bwer newydd, Gorsaf Bwer Hafren, yn cymryd 30 mis i'w chodi ac yn cynhyrchu 800 MW o drydan.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^