BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 31 Ionawr 2007, 09:59 GMT
Tata i Corus am 5.75 biliwn
Dur yn cael ei gynhyrchu
Mae Corus yn cyflogi 7,900 o weithwyr yng Nghymru

Daeth yr arwerthiant i brynu cwmni dur Corus i ben dros nos a chwmni Tata o India enillodd y ras.

Mae'r cwmni o India wedi cynnig 5.75 biliwn a bydd cyfranddalwyr Corus yn ystyried y cynnig.

Cyflogi y mae Corus 7,900 o weithwyr yng Nghymru, gan gynnwys mwy na 3,000 ym Mhort Talbot.

Os yw'r cynnig am y cwmni Ewropeaidd yn cael ei gymeradwyo, hwn fydd y pumed cwmni dur mwyaf yn y byd.

Enillodd Tata, y mae eu pencadlys yn Mumbai, ar l cynnig 608 ceiniog am bob cyfranddaliad, ac felly'n cynnig 5.75 biliwn ($11.3bn) am Corus.

Pan gynigiodd Tata 4.1 biliwn yn wreiddiol ym mis Hydref, dywedodd y prif weithredwr Corus, Philippe Varin, nad oedd y cynnig "yn golygu colli swyddi".

Marchnad ryngwladol

"Mae hwn yn golygu datblygu cwmni fydd mewn sefyllfa gref yn y byd."

Dydd Mercher gostyngodd cyfranddaliadau Tata 6% yn India wrth i fuddsoddwyr boeni am yr effaith tymor byr tra bod cyfranddaliadau Corus wedi codi 7% yn Llundain.

"Fe fydd cael Corus yn glygu ein bod yn gryfach yn y farchnad ddur ryngwladol," meddai cyfarwyddwr Tata, J J Irani.

"O gwmni bach rydyn ni'n mynd i fod yn un o gwmniau mwya'r farchnad fydeang."

Mae gan Corus weithfeydd ym Mhort Talbot, Llanwern, Trostre a Shotton.

Cafodd ei ffurfio yn 1999 ar l i gwmni British Steel uno chwmni Hoogovens o'r Iseldiroedd.

Mae'n cyflogi 47,300 drwy'r byd, gan gynnwys 24,000 ym Mhrydain

Yn 2005 Tata oedd rhif 56 ar restr cynhyrchwyr dur yn y byd.

Hwn fydd y tro cynta i'r cwmni brynu busnes arall y tu allan i Asia.

Mae grŵp Tata yn berchen ar de Tetley a cheir Daewoo.




HEFYD
Dirwy o 1.3m i gwmni dur
15 Rhag 06 |  Newyddion
Cwmni dur Brasil am brynu Corus
11 Rhag 06 |  Newyddion
Corus i fuddsoddi 6m yn Shotton
13 Tach 06 |  Newyddion
Colli swyddi dur
10 Tach 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^