BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Ionawr 2007, 12:45 GMT
Casino: 'Ie' i Abertawe
Darlun artist o'r Casino yng Nghaerdydd
Roedd cais casino Caerdydd yn allweddol i'r Pentref Chwaraeon

Mae cais Abertawe i gael un o'r 16 casino llai yn y Deyrnas Unedig wedi llwyddo, ond methodd cais Caerdydd i gael casino enfawr cynta'r Deyrnas Unedig.

Roedd 31 ar y rhestr fer ar gyfer un o'r 16 casino llai fydd yn cynnig jacpot o 4,000.

Manceinion enillodd y drwydded am gasino enfawr a threchu Caerdydd, Blackpool, Llundain, Glasgow, Newcastle, a Sheffield.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Chris Holley: "Mae hyn yn newyddion da iawn i Abertawe.

"Byddai'r drwydded newydd yn rhoi cyfle newydd pwysig i'r ddinas ehangu'r ddarpariaeth hamdden ac adloniant.

"Bydd yn golygu bod y ddinas yn fwy bywiog ac yn hwb i dwristiaeth. Mae'n debyg y bydd llawer o swyddi da yn sgl y datblygiad."

'Ras'

Dywedodd Cyngor Caerdydd na fydden nhw'n rhoi'r gorau i'w cais i ennill y casino.

A dywedodd arweinydd y cyngor, Rodney Berman: "Rwy'n llongyfarch Manceinion am fod y Panel Cynghori Casino wedi argymhell y ddinas honno ... ond dim ond camfa arall mewn ras yw hon.

"Rhaid i'r Ysgrifennydd Diwylliant drafod gydag eraill drwy Brydain cyn gwneud argymhelliad i'r ddau dŷ yn San Steffan.

"Bydd y Senedd wedyn yn penderfynu."

Roedd Cyngor Caerdydd cyn y cyhoeddiad wedi dweud bod y casino yn allweddol i gynlluniau'r cyngor ar gyfer pentref chwaraeon rhyngwladol.

Panel Cynghori Casino gyhoeddodd y dewisiadau ddydd Mawrth.

Roedd pum aelod y panel yn cynnwys arbenigwyr ym maes cynllunio ac adfywio o dan arweiniad yr Athro Stephen Crowe o Brifysgol Caerdydd.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Tessa Jowell, yn gorfod penderfynu a yw'n fodlon ar y dewisiadau.




HEFYD
Casino: Caerdydd ar y rhestr fer
24 Mai 06 |  Newyddion
Caerdydd: Cais am gasino
01 Medi 06 |  Newyddion
Cais dinas am gasino
16 Rhag 05 |  Newyddion
Dechrau codi pentre chwaraeon
17 Rhag 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^