Mae disgwyl i tua 180,000 o bobl ymweld ag ardal yr Eisteddfod
|
Mae parc siopa yn Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol drwy annog staff i ddysgu Cymraeg.
Ers wythnosau mae rheolwyr y parc ym Mrychdyn wedi bod yn trafod â'r Bwrdd Iaith sut i hybu'r Gymraeg yn y parc.
Mae bws cymunedol BBC Cymru - Hysbys - yn ymweld â'r safle ddydd Llun fel rhan o'r ymgyrch i hybu ymwybyddiaeth am y Gymraeg.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint 2007 ar safle yn Yr Wyddgrug ym mis Awst.
Wythnos brysur
Mae'r parc lle mae 30 o siopau'n anelu at ddatblygu arwyddion dwyieithog a rhoi bathodynnau "Iaith Gwaith" i siaradwyr a dysgwyr.
Fe fyddan nhw'n sôn wrth staff am sut i ddelio'n gwrtais ac yn effeithiol â chwsmeriaid Cymraeg.
Gan y bydd tua 180,000 yn ymweld â'r ardal dros gyfnod yr Eisteddfod mae'r parc yn disgwyl wythnos brysur.
"Oherwydd hyn bydd pobl yn dymuno derbyn gwasanaeth dwyieithog," meddai Colin Gilligan, rheolwr y parc.
"Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu defnydd o'r Gymraeg yn y parc ac rydym yn croesawu ymweliad yr Hysbys."
Cyfarchion syml
Mae Swyddog Dysgwyr yr Eisteddfod, David Jones, yn cynnal sesiynau blasu Cymraeg i'r gweithwyr ddydd Llun a bydd modd i'r staff gofrestru ar gwrs 6 wythnos yn rhad ac am ddim.
"Pwrpas y sesiynau yw dysgu cyfarchion syml fel bod aelodau staff yn gallu croesawu a chyfarch cwsmeriaid yn ddwyieithog," meddai.
Un arall ar gael i roi cyngor yw Meleri Williams, Swyddog Uned Sector Preifat Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer y gogledd.
"Mae cyfarch cwsmeriaid yn ddwyieithog a dweud gair neu ddau yn Gymraeg yn cael ei gydnabod yn arfer da a bydd yn sicr o gael derbyniad da gan Eisteddfodwyr.
"Rwy'n falch iawn fod y parc yn gweld manteision defnyddio'r iaith."
Yr un diwrnod mae diwrnod hyrwyddo addysg Gymraeg a swyddogion ar gael i roi cyngor a gwybodaeth i rieni.