BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 26 Ionawr 2007, 17:11 GMT
Syr Eric: Ffrae 'i blaid yn lleol
Sir Eric Howells
Mae Syr Eric yn o lywyddion y Ceidwadwyr Cymreig

Mae aelod amlwg o'r Ceidwadwyr yn cefnogi darpar ymgeisydd "answyddogol" yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Honnodd Syr Eric Howells, cyn-gadeirydd y Ceidwadwyr, fod llawer o bobl newydd wedi ymuno 'r blaid yn lleol ac wedi "cipio gormod o rym".

Ar raglen BBC Cymru Dragon's Eye dywedodd Syr Eric fod darpar ymgeisydd swyddogol yr etholaeth, Angela Burns wedi cael ei henwebu gan aelodau newydd sy'n gysylltiedig grŵp o blaid hela chwn.

Mae'r aelodau newydd wedi cipio awenau'r blaid yn lleol, meddai Syr Eric, un o lywyddion y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd fod mwyafrif aelodau'r blaid yn yr ardal yn cefnogi'r darpar ymgeisydd di-enw ac y byddai'r unigolyn yn cyhoeddi bwriad i sefyll yn swyddogol cyn bo hir.

"Pan fydd yr unigolyn yn cyhoeddi ei enw'n swyddogol, rwy'n gobeithio y bydd y darpar ymgeisydd presennol, Angela Burns, yn tynnu'i henw yn l.

Ergyd

"Os nad yw hi'n dewis gwneud hynny, fydd gen i ddim dewis ond cefnogi'r ymgeisydd answyddogol, gan mai hwn yw dymuniad mwyafrif y blaid yn lleol."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr mai ychydig iawn o aelodau'r blaid yn lleol oedd yn cefnogi'r darpar ymgeisydd di-enw ac mai dim ond llefrif oedd yn cytuno Syr Eric.

Mae lleiafrif bach o aelodau'r blaid yn lleol wedi dewis dadlau ymysg ei gilydd
Llefarydd ar ran y Ceidwadwyr

Fyddai'r Ceidwadwyr, meddai, ddim yn gadael i unigolion fel Syr Eric, oedd wedi cael "ergyd" i'w hunanbarch, "danseilio ymdrech y blaid" wrth ennill sedd yn Etholiadau'r Cynulliad ym Mai.

"Mae'n ymddangos bod lleiafrif bach o aelodau'r blaid yn lleol wedi dewis dadlau ymysg ei gilydd yn lle ymgyrchu yn erbyn y pleidiau eraill, meddai.

Anarferol

Mae Ceidwadwyr amlwg fel Matthew Gunther-Bushell wedi dweud ei fod yn synnu at benderfyniad Syr Eric.

Dywedodd Mr Gunther-Bushell ei bod yn anarferol i ddyn mor brofiadol Syr Eric Howells gefnogi ymgeisydd answyddogol.

"Mae gan y Ceidwadwyr gyfle i gipio etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ond gallai'r ffrae yma ddifetha'r cyfle."

Ymddiswyddodd darpar ymgeisydd gwreiddiol y blaid yn yr etholaeth, John Jenkins, ym Mawrth y llynedd wedi ei sylwadau dadleuol am hoywon.




HEFYD
Gorfodi Tori dadleuol i ymddiswyddo
16 Maw 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^