BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 26 Ionawr 2007, 13:11 GMT
Gwyddonydd yn marw
Dr Gwynn a Hugh Thomas
2006: Derbyniodd Dr Gwynn y Fedal gan Lywydd Llys yr Eisteddfod Hugh Thomas

Bu farw'r gwyddonydd a'r awdures Dr Eirwen Gwynn yn 90 oed.

Roedd yn awdur toreithiog, bardd a heddychwraig, ac yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru.

Ei mab yw'r Dr Iolo ap Gwynn, uwch-ddarlithydd yn y Sefydliad Gwyddorau Bywydegol, Aberystwyth, ac awdur Mynydda (1978) a Fyny Yma (1981).

Cafodd hi ei magu yn Llangefni a'i haddysgu ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ac roedd yn wraig i'r darlledwr Harri Gwynn.

"Mae'r newyddion yn annisgwyl iawn er ei bod wedi cael cystudd hir a phoenau blinderus iawn," meddai ei chyfaill mynwesol y Dr Meredydd Evans o Gwmystwyth, Ceredigion.

'Argyhoeddiadau'

Dywedodd ei fod wedi cyfarfod hi gynta yn 1940 ond i'r ddau o'r chwedegau ymlaen gydweithio ar wahanol ymgyrchoedd, yn enwedig ymgyrch yr iaith.

Yn 1999 cafodd y ddau eu dirwyo pan oedden nhw'n llywyddion anhrydeddus Cylch yr Iaith.

"Roeddan ni'n rhannu'r un argyhoeddiadau, gydag Eirwen yn genedlaetholwraig frwd, yn heddychwraig a'i hymroddiad i'r Gymraeg yn ddi-arbed.

"Roedd hi'n ddynes o argyhoeddiadau cryf iawn er yn ddynes fechan o ran corffolaeth.

"Ac roedd ganddi rym eithriadol yn ysbrydol, roedd hi'n frwd dros ei daliadau ac yn gadarn ei hegwyddorion."

Dywedodd fod ei golwg ar fywyd "yn eitha creulon a thywyll weithiau".

'Delfrydau'

"Ond ar yr un pryd roedd ganddi ymroddiad i ddelfrydau oedd yn goleuo ei bywyd. Roedd hi'n byw bywyd llawn ac yn ddynes brysur iawn."

Enillodd hi'r Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006.

Ganed Eirwen Meriona Gwynn yn Lerpwl cyn i'w rheini symud i Langefni.

Hi oedd y fenyw gynta i ennill doethuriaeth mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd wedi graddio ym maes Crisialeg Pelydrau-X yn 1940.

Bu'n ymchwilydd gwyddonol, athrawes ffiseg, archwilydd adran o'r Gwasanaeth Gwladol yn Llundain, yn ffermio, yn ddarlithydd i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ac Adran Allanol y Brifysgol am 25 mlynedd, yn athro-drefnydd amser llawn i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr am 10 mlynedd.

Roedd hi'n ddynes o argyhoeddiadau cryf iawn er yn ddynes fechan o ran corffolaeth
Dr Meredydd Evans

Roedd wedi rhoi llawer o ddarlithiau ac yn darlledu'n aml.

Hi oedd cyn-lywydd y Gymdeithas Wyddonol Brydeinig ac roedd yn aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd.

Roedd yn gyn-aelod Llys y Llyfrgell Genedlaethol, Cyngor Ymgynghorol dros Addysg, Llys y Brifysgol ac o Bwyllgor Sefydlog Urdd y Graddedigion. Roedd yn Gymrodor o Brifysgol Bangor.

Tu allan i faes gwyddoniaeth roedd ei diddordebau'n eang - enillodd gystadleuaeth ddrama'r BBC, y stori fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol a dangoswyd ei lluniau yn yr Arddangosfa Gelf a Chrefft.

1,400 o erthyglau

Roedd yn awdur o leia 1,400 o erthyglau ar bynciau gwyddonol, yn bennaf yn Y Cymro, Y Faner, Y Gwyddonydd a chylchgronau eraill ac mewn llyfrau megis Gwyddonwyr y Byd, Cell Gymysg o'r Genedlaethol, Cyffro ein Canrif, Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr 20fed Ganrif.

Bu'n awdur a chyflwynydd degau o raglenni radio a 12 rhaglen deledu.

Roedd yn un o awduron a chyd-olygydd Ein Canrif, 100 mlynedd o hanes ardal Ceulanmaesmawr, (Tal-y-bont, Ceredigion) cyfrol ddwyieithog tua 600 tudalen wedi'i chyhoeddi yn 2005.




HEFYD
Medal wyddoniaeth i Eirwen
11 Awst 06 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^