BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 25 Ionawr 2007, 14:14 GMT
Problem casglu bocsus ailgylchu
Bocs ailgylchu
Mae'r cyngor yn casglu un bocs o bob tŷ
Oherwydd mwy o sbwriel ailgylchu mae cyngor sir wedi cyfyngu faint y mae teuluoedd yn cael gadael ar ochr y ffordd.

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin mai dim ond un bocs glas y bydd teulu'n cael gadael bob wythnos ar gyfer sbwriel ailgylchu.

Maen nhw'n dweud nad oes digon o le ar lorau casglu.

Nod y cyngor yn y pen draw yw defnyddio bagiau glas fel y gall teuluoedd adael cymaint o sbwriel ailgylchu phosib.

Safleoedd ailgylchu

Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan y grŵp amgylcheddol, Cyfeillion y Ddaear.

Yn l trigolion y sir, maen nhw'n arfer gadael bocsus glas i gael eu casglu, gan adael unrhyw sbwriel ailgylchu ychwanegol mewn bagiau plastig.

Ond maen nhw wedi cael rhybudd mai dim ond y bocs glas fydd yn cael ei gasglu.

Dywedodd Wendy Thomas o Hafod Elfed fod hi a'i gŵr am ailgylchu llawer mwy na faint maen nhw nawr yn cael gadael.

"Bydd yn rhaid i bobl fynd i ganolfannau ailgylchu neu roi'r sbwriel mewn bagiau plastig du a'i drin fel sbwriel cyffredin."

Yn l y cyngor, bydd pobl yn gallu mynd sbwriel sy'n weddill i un o safleoedd ailgylchu'r cyngor.

Siomedig

Dywedodd Gordon James o Gyfeillion y Ddaear fod y penderfyniad yn siomedig.

"Mae'n ddatblygiad od, gan fod y sir yn gwneud yn dda gydag ailgylchu, ac mae 'na ganolfan ailgylchu dda ger Caerfyrddin.

"Mae gwaith ymchwil yn dangos hyn - os ydyn ni am gael pobl i ailgylchu, rhaid sicrhau bod y broses yn syml."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^