Mae mwy o blant yn cael eu heithrio
|
Dywedodd y corff arolygu addysg yng Nghymru eu bod yn poeni am nifer y rhai sy'n gadael ysgol â chanlyniadau da mewn pynciau craidd.
Wrth gyhoeddi adroddiad blynyddol, dywedodd Estyn mai dim ond 40% o blant 16 oed sy â chanlyniadau da yn eu harholiadau TGAU yn y pynciau canlynol, Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Er hynny mae Susan Lewis, y prif arolygydd, wedi canmol safonau gwersi.
Yn y Barri, Bro Morgannwg, dywedodd hi wrth lansio'r adroddiad ei bod hi'n poeni am "ddiffyg cynnydd" mewn pynciau craidd.
"Erbyn diwedd eu cyfnod mewn addysg orfodol dim ond 40% o blant 16 oed lwyddodd i gael canlyniadau TGAU da mewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
"Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r canlyniadau wedi gwella rhywfaint yn ara deg."
Colli ysgol
Dywedodd yr adroddiad bod tangyflawni yn aml law yn llaw â phroblemau ymddygiad, bwlio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae sawl ysgol wedi dweud eu bod yn cydweithio yn agosach â gwasanaeth cefnogaeth yr ifanc tra bod eraill yn cynnig help i rieni a chymunedau.
Tynnodd yr adroddiad sylw at broblemau sy'n gysylltiedig â phresenoldeb mewn ysgolion.
Fe wnaeth Susan Lewis ganmol safon gwersi
|
Bob dydd mae tua 20,000 o blant yn absennol - sy'n cyfateb i 20 o ysgolion gwag ar draws Cymru.
Roedd rhai'n absennol oherwydd eu bod ar wyliau yn ystod y tymor ond roedd y mwyafrif yn absennol heb ganiatâd.
"Ar sail eu perfformiad diweddar fydd ysgolion uwchradd ddim yn cyrraedd cyraeddiadau'r llywodraeth i leihau absenoldeb o dan 7% erbyn 2007," meddai Ms Lewis.
Cododd y nifer o ddisgyblion gafodd eu heithrio - 20,242 wedi eu heithrio am gyfnodau penodol tra oedd 6,530 yn 2003-4.
Yn 2005-5 cododd nifer y rhai oedd wedi eu gwahardd am byth i ychydig dros 10%.
Un o bob saith plentyn sy'n cael eu heithrio sy'n symud i ysgolion eraill, meddai'r adroddiad.
"Mae awdurdodau lleol yn methu rhoi'r 25 awr o addysg i'r rhai sydd wedi eu heithrio," meddai.
Ond cafon safon y gwersi ei chanmol ac ychydig o waith oedd yn anfoddhaol.
Targedau
Roedd cyfeiriad at addysg bellach yn yr adroddiad - 81% o'r gwaith yn "dda iawn" neu yn "dda".
Ymhlith y pynciau "rhagorol" roedd trin gwallt, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.
"Ar y cyfan mae colegau yn gwneud yn well 'na thargedau'r llywodraeth," ychwanegodd Ms Lewis.
Dywedodd Gweinidog Addysg y Llywodraeth, Jane Davidson, fod yr adroddiad yn olwg ar y cynnydd ymhob agwedd bron ar addysg a hyfforddiant.
"Roeddwn yn falch iawn o'r canlyniadau - bod y rhan fwyaf o sectorau wedi gwella ers yr adroddiad blaenorol.
"Rydym wedi cychwyn proses ad-drefnu addysg a hyfforddi gydol oes yng Nghymru.
"Mae'r adroddiad yn cadarnhau ein bod ni ar y trywydd cywir ac y bydd Cymru yn wlad fydd yn rhoi cyfle i addysgu a llwyddo."