Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar faterion y dydd. Mae croeso i chi anfon eich sylwadau aton ni isod.
Dydd Mercher, Ionawr 24
Dwy'n gwybod cyn dechrau bydd y golofn yn gwylltio'r rheiny sy'n argyhoeddedig bod 'na rhyw ragfarn hwntw-aidd neu brifddinas-aidd yn ein newyddiaduraeth a bod mân straeon o Gaerdydd yn hawlio sylw tra bod straeon pwysig o weddill Cymru yn cael eu hanwybyddu.
Serch hynny, mae hon yn stori fach mor ddifyr nes fy mod am fentro ei rhannu gan ei bod yn adrodd cyfrolau am rai o'n gwleidyddion a'n pleidiau.
Ar y wyneb, ffrae blwyfol mewn un ward yw hon sef cynllun gan Gyngor Caerdydd i gyfyngu ar barcio yn ardal Treganna.
Ond mae'r hyn sydd wedi deillio ohoni yn ddifyr, doniol a diddorol.
Y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n rheoli Cyngor Caerdydd a nhw sy'n gyfrifol am y cynllun.
Pan gafwyd proses ymgynghori roedd y mwyafrif o drigolion Treganna wnaeth ymateb, o blaid y cynllun.
Yr un oedd y patrwm mewn rhannau eraill o'r ddinas ac fe aeth y Cyngor ymlaen a'r broses o gyflwyno'r cyfyngiadau.
Arf anarferol
Ond yn fuan fe aeth y Cyngor i drafferth.
Cynghorwyr Llafur sy'n cynrychioli Treganna ond mae eu seddi yn cael eu llygadu gan y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.
Gyda'r cynghorwyr yn agnostig ynglŷn â'r cynllun a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bybyr o'i blaid, gwelodd Plaid Cymru eu cyfle.
Gan ddefnyddio tactegau clasurol y Democratiaid Rhyddfrydol, taflenni rhad, deisebu ac yn y blaen fe lansiodd Plaid Cymru ymgyrch yn erbyn y cynlluniau.
Fel rhan o'u hymgyrch manteisiodd y protestwyr ar ddarn o ddeddfwriaeth o'r 70au sy'n galluogi etholwyr i orfodi cynghorau i gynnal refferendwm lleol.
Rwy'n rhyfeddu nad yw'r cymal hwn yn cael ei ddefnyddio'n fwy aml gan grwpiau protest.
Mae'n dacteg effeithiol a rhad.
Mae'n anodd gor-ddweud yngl ŷn â'r blew a dynnwyd o drwynau'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Y cyngor yn ymateb
Cafwyd ymateb grymus gan y Cyngor a'i arweinyddiaeth wleidyddol i'r bygythiad.
O fewn oriau i'w gosod, danfonwyd swyddogion y cyngor i dynnu posteri yn hysbysesbu'r refferendwm o bolion lamp yn y ward.
Yr ymateb yn dra gwahanol i'r hyn sy'n digwydd i bosteri hysbysebu eraill yn yr ardal.
Hefyd dosbarthwyd taflen sgleiniog o eiddo'r cyngor.
Ond yr ymateb mwyaf rhyfedd oedd taflen ddienw yn brolio am fanteision y cynllun parcio.
Roedd hi'n weddol amlwg o safon yr argraffu mai cynnyrch gwasg breifat y Democratiaid Rhyddfrydol oedd hon.
Cafwyd cadarnhad o hynny pan ymddangosodd lluniau o neb llai nac arweinydd y cyngor, Rodney Berman, yn gwthio'r taflenni trwy ddrysau Treganna.
Nawr fe fyddai rhai yn canmol y Cynghorydd Berman am fod yn barod i frwydro'n bersonol dros un o'i bolisïau.
Fe fyddai eraill yn cwestiynu ei flaenoriaethau a chrebwyll gwleidyddol yn enwedig gan fod cyfreithlondeb cyhoeddi taflen wleidyddol yn ddienw yn amheus a dweud y lleiaf.
Yn fy marn i mae'n awgrymu bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei chael hi'n anodd cefnu ar y math o dactegau oedd yn eu gwneud yn wrthblaid lwyddiannus.
Fe gawn ni wybod nos Wener beth yw barn trigolion Treganna am y cynllun parcio.
Os ydy'r cynllun yn cael ei wrthod mae'n debyg bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei dynnu yn ôl ac yn ail-ystyried eu buddsoddiad gwleidyddol yn ward Treganna.
Os felly hwn fydd y tro cyntaf ers blynyddoedd i'r don felen gael ei throi nôl o un o wardiau Caerdydd a hynny trwy ddefnyddio'r union arfau a fu mor effeithiol i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng ngweddill y ddinas.
Os oes gennych chi sylw gallwch ein e-bostio isod.
Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.