Dywed Cyfeillion y Ddaear bod 8bn o fagiau yn cael eu defnyddio bob blwyddyn
|
Byddai bagiau plastig yn cael eu gwahardd os yw'r cynulliad yn penderfynu o blaid syniad enillodd gystadleuaeth gan BBC Cymru.
Fe fydd y syniad am fesur newydd yn cael ei gyflwyno i Lywydd y Cynulliad Dafydd Elis Thomas.
Roedd mwy na 500 o ddarllenwyr wedi bwrw pleidlais yng nghystadleuaeth Cyfraith y Cymry, cystadleuaeth oedd yn rhoi cyfle i bobl Cymru roi barn am ddeddfau sydd angen cael eu cyflwyno yng Nghymru.
Y tri syniad ar y rhestr fer oedd gwahardd bagiau plastig, gwahardd curo plant a sefydlu corff i gydlynu timau achub.
Nod y gystadleuaeth oedd tynnu sylw at bwerau newydd y cynulliad.
Gwaharddiad
Gall unrhyw un gynnig syniad am fesur newydd yn uniongyrchol i'r cynulliad os yw 10 o bobl yn cefnogi'r awgrym.
Bydd y syniad o wahardd bagiau plastig yn mynd o flaen pwyllgor deisebu'r cynulliad.
Y pwyllgor fydd yn penderfynu a ddylai'r aelodau drafod y syniad ymhellach.
Neil Evans oedd un wnaeth alw am wahardd bagiau plastig
|
Fe bleidleisiodd dros 50% o blaid y syniad i wahardd bagiau plastig.
Neil Evans o Gaerfyrddin oedd un o'r chwech a gynigiodd y syniad.
"Dwi'n credu y bydd yn beth da ac y bydd pobl Cymru yn ei gefnogi ... fe fydd e'n dangos bod y cynulliad yn gwneud gwahaniaeth."
Dywedodd Jane Davidson, Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig, ei bod hi o blaid gwaharddiad o'r fath.
"Fe wnes i godi mater gwahardd bagiau plastig fis diwetha wrth gyhoeddi ein bod ni am geisio mwy o bwerau er mwyn gwella'r amgylchedd.
"Byddai'r pwerau newydd yn caniatáu i'r cynulliad ystyried gwahardd bagiau plastig."
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, mae 8 biliwn o fagiau plastig yn cael eu defnyddio gan siopwyr ym Mhrydain bob blwyddyn.
Dywedodd Alwyn Evans, cyfarwyddwr cwmni pecynnu yng Nghaerdydd, na fyddai gwaharddiad yn lleihau maint y carbon sy'n dianc i'r amgylchedd.
"Dwi ddim yn credu y gallai'r rhan fwyaf o berchnogion siopau fforddio defnyddio papur.
"Os ydyn ni'n defnyddio mwy o fagiau ail-gylchu, byddai hynny'n ateb gwell."