Y Byd: Hwb ariannol
|
Mae cyhoeddi'r papur dyddiol Cymraeg cynta gam yn nes am fod cais am gymorthdal rhanbarthol yn llwyddiannus.
Bydd hyn yn golygu bod modd cyflogi mwy o staff a phenderfynu amserlen ar gyfer cyhoeddi'r rhifyn cynta, meddai'r cyhoeddwyr.
"'Dan ni'n falch iawn fod rhan ola'r jig-so yn ei lle," meddai Ned Thomas, cadeirydd y cyhoeddwyr, Cwmni Dyddiol.
"Mae hyn yn caniatáu i ni osod yr amserlen yn lle aros am olau gwyrdd o ran grant."
Er hynny, dywedodd nad oedd dyddiad pendant ar gyfer cyhoeddi'r rhifyn cynta.
Roedd yn annhebyg, meddai, y byddai'r rhifyn cynta cyn yr haf. "Mae'n gwthio'r amserlen y tu hwnt i'r haf."
Doedd e ddim yn fodlon dweud faint oedd y cymhorthdal rhanbarthol.
Penodi
Ond awgrymodd y gallai'r pencadlys fod yn y canolbarth.
"Mae adeilad addas iawn ar Barc Ecolegol Machynlleth.
"Bydd rhaid i ni ystyried manylion ariannol Cyngor Powys."
Yn Nhachwedd cyhoeddwyd fod dau wedi eu penodi'n olygydd a dirprwy olygydd papur newydd Y Byd. Y ddau oedd Aled Price a Catrin Rogers.
Mae Mr Price, o Gaerdydd yn wreiddiol, yn newyddiadurwr profiadol sydd wedi gweithio am flynyddoedd i BBC Cymru.
Bu'n cynhyrchu rhaglen Newyddion ar S4C ac yn gweithio yn uned wleidyddol BBC Cymru.
Cyn ymuno â BBC Cymru bu'n gweithio ar raglen Y Byd ar Bedwar i HTV Cymru.
'Project hanesyddol'
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at afael yn yr awenau a bod yn rhan o broject "mor hanesyddol â hwn, y papur dyddiol Cymraeg cynta erioed".
Y dirprwy olygydd fydd Catrin Rogers, golygydd papur lleol yn Hounslow yn Llundain.
Fel newyddiadurwraig ar ei liwt ei hun mae hi wedi cyfrannu at bapur yr Observer a nifer o gylchgronau.