BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Gorffennaf 2007, 08:17 GMT 09:17 UK
Prifwyl: Cyrraedd y copa
David Snowdon Jones (chwith)
David Snowdon Jones yn cyrraedd y copa am y 1,477fed tro

Mis cyn yr Eisteddfod yn Sir y Fflint fe ymgasglodd cannoedd ar gyfer taith gerdded.

Cafodd Taith y Dathlu ei chynnal ar y seithfed dydd o'r seithfed mis yn 2007 ac roedd arweinydd y daith, David Snowdon-Jones, yn dathlu ei benblwydd yn 77 oed.

Cerdded i gopa Moel Famau, copa ucha Bryniau Clwyd (554 metr) oedd y nod.

Syniad Mr Snowdon-Jones oedd y daith i ddathlu a chodi arian.

Cychwynnodd gyda thua hanner dwsin o'i deulu, ar y daith am saith munud wedi saith ddydd Sadwrn o faes yr Eisteddfod ac fe gerddodd y saith milltir at droed Moel Famau.

Yno, ar ddiwrnod braf, cafodd gwmni tua 350 o gerddwyr i gyrraedd y copa.

Syrthio mewn cariad

Ond i Mr Snowdon-Jones doedd y daith i'r copa ddim yn ddieithr.

Ddydd Sadwrn llwyddodd i gyrraedd y copa am y 1,477fed tro.

"Mae'n daith ddymunol ond heriol," meddai. "Dwi, fel arfer, yn cerdded gyda Jasper y ci.

Cerddwyr yn cerdded i gopa Moel Famau
Roedd tua 350 o gerddwyr yn rhan o Daith y Dathlu

"Mae wedi cerdded i fyny Moel Famau 372 o weithiau.

"Pan ddechreuais gerdded pellteroedd hir roedd fy ngwraig yn poeni fy mod wedi cwympo mewn cariad â rhywun arall, ond wedi cwympo mewn cariad â'r mynydd oeddwn i.

"Dwi wedi gwirioni ar y daith ac mae'n anrhydedd i mi fod yr Eisteddfod wedi gofyn i mi arwain y daith er mwyn codi arian ..."

Roedd Band Tref Treffynnon ar droed Moel Famau yn annog y cerddwyr i'r copa.

Yno, ar y copa, roedd 'na luniaeth ar gyfer y cerddwyr sychedig ac roedd 'na adloniant wrth i Gron Ellis, un o is-gadeiryddion Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, arwain y canu.

Wrth i Nic Parry, un o'r is-gadeiryddion y pwyllgor gwaith, groesawu'r dyrfa i'r copa, dywedodd bod pawb yn paratoi at yr wythnos.

"Rydan ni yma i ddathlu cyhoeddi ychydig wythnosau cyn yr eisteddfod 2007," meddai.

"Mae'r pafiliwn pinc ar ei draed a phawb yn barod amdani rwan," ychwanegodd.

Cronfa leol

"Mae'n braf yma a Dyffryn Clwyd yn hardd ond dwi'n amau na welwn ni'r pafiliwn oddi yma," meddai Aled Lloyd Davies, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

"Ond mae nifer o'r adeiladau i fyny ar y maes gan gynnwys Cylch yr Orsedd.

Y cerddwyr ar y copa
Dros 300 o gerddwyr ar gopa Moel Famau

"Rwan fyddwn ni'n edrych ymlaen at y tywydd braf."

Dyma un o'r digwyddiadau olaf cyn i'r Eisteddfod gychwyn ar Stad Pentrehobin ar Awst 4.

Er mai cwta 18 mis y cafodd trigolion y sir i gasglu arian mae'r gronfa leol wedi hen gyrraedd ei tharged - ac mae 'na bosibilrwydd fod mwy o arian wedi ei godi at Brifwyl eleni nag ar gyfer unrhyw ŵyl flaenorol.

"Mae'r gronfa leol wedi mynd yn dda ac yn dal i fynd," meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod.

"Mi rydan ni o fewn dim i gasglu'r mwya sydd wedi cael ei gasglu fel cronfa leol ar gyfer unrhyw Eisteddfod sy'n anhygoel wrth feddwl mai cwta 18 mis yn ôl y cychwynnodd y gwaith casglu arian.

"Efo cyfraniad y cyngor lleol rydan ni wedi casglu £355,000 ac roedden ni'n anelu am £297,000."



HEFYD
Prifwyl 2007 yn Yr Wyddgrug
18 Ion 06 |  Newyddion
Prifwyl Fflint yn cyrraedd nod
21 Mai 07 |  Newyddion
Parc siopa'n paratoi at Steddfod
29 Ion 07 |  Newyddion
Prifwyl 2007: 'Dim penderfyniad'
04 Ion 06 |  Newyddion
Prifwyl 2007: Cychwyn ar godi arian
25 Tach 05 |  Newyddion
Prifwyl 2007 'ar dir Cymru'
29 Medi 05 |  Newyddion
Prifwyl: Cytundeb mewn egwyddor
27 Medi 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^