BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Gorffennaf 2007, 17:10 GMT 18:10 UK
Llawdriniaeth i Rhodri
Rhodri Morgan
Fe aed a Mr Morgan i'r ysbyty yn diodde o boenau yn ei stumog.
Mae Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, wedi cael llawdriniaeth ddydd Llun oherwydd anhwylder ar y galon.

Cafodd driniaeth i wella llif y gwaed mewn dwy brif wythen yn Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd.

Fe aed ag e i Ysbyty Llandochau ger Caerdydd brynhawn Sul yn diodde o boenau yn ei stumog.

Mae Jane Hutt, Gweinidog Busnes Llywodraeth y Cynulliad, wedi dweud fod Mr Morgan, 67 oed, yn iach a'i fod yn effro yn ystod triniaeth dydd Llun.

Roedd mewn hwyliau da, meddai.

"Rwy'n sicr eich bod eisiau gwybod beth yw'r diweddara am y glymblaid a'r Cabinet newydd.

Llywodraeth Glymblaid

"Ni allaf roi mwy o fanylion ar hyn o bryd ond fe wna i hynny unwaith bod trafodaethau wedi eu cynnal.

"Rwy'n hyderus y bydd Rhodri yn l yn ei swydd yn fuan."

Bydd Ms Hutt yn lle Mr Morgan yn sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mawrth.

Dros y diwrnod diwetha fe gytunodd y ddwy blaid ffurfio Llywodraeth glymblaid.

Y gred yw y bydd yn Brif Weinidog ac Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, yn ddirprwy.

Ond mae salwch Mr Morgan wedi golygu oedi yn y trafodaethau.

A gyda thymor swyddogol y Cynulliad yn dod i ben am yr haf ddydd Iau, mae yna ddyfalu pryd y bydd modd i'r trafodaethau gael eu cwblhau

Ieuan Wyn Jones
Dywedodd Mr Jones ei fod yn dymuno gwellhad buan i'r Prif Weinidog
Dywedodd Mr Jones ei fod yn dymuno'r gorau i'r Prif Weinidog a'i fod yn edrych ymlaen iddo ddychwelyd i'w waith er mwyn iddy nhw gwblhau eu trafodaethau.

Ar hyn o bryd mae saith gweinidog yn y Cabinet a phum dirprwy.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gallai benodi hyd at 12 gweinidog, ond mae'n debyg y bydd aelodau Plaid Cymru yn disodli rhai o aelodau presennol y Cabinet.

Doedd Mr Jones ddim yn fodlon dweud pa swyddi y byddai'n gofyn amdanyn nhw. "Mae'r materion hyn i'w trafod efo Rhodri Morgan.

"'Dan ni wedi bod yn trafod yn fras, ond does dim trafodaeth fanwl wedi bod. Rwan mae'r trafod yn dechrau o ddifri."

Penderfynodd cyngor cenedlaethol Plaid Cymru ddydd Sadwrn gefnogi'r ddogfen "Cymru'n Un" , 225 o blaid ac 18 yn erbyn.

Nos Wener pleidleisiodd cynhadledd arbennig o'r Blaid Lafur o blaid y syniad - 78.4% o blaid clymblaid a 21.6% yn erbyn.




HEFYD
Plaid: Swyddi allweddol?
08 Gorff 07 |  Newyddion
'Ie' i lywodraeth glymblaid
08 Gorff 07 |  Newyddion
Clymblaid: Y camau nesa?
07 Gorff 07 |  Newyddion
Llafur yn pleidleisio 'Ie'
06 Gorff 07 |  Newyddion
Clymblaid: Pwysau ar Morgan
20 Meh 07 |  Newyddion
Plaid i barhau i drafod Llafur
16 Meh 07 |  Newyddion
Dwy blaid: 'Bargen hanesyddol'
13 Meh 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^