BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Gorffennaf 2007, 15:23 GMT 16:23 UK
Cynghorwyr yn croesawu Tesco
Tesco
Bu gwrthwynebiad mewn blynyddoedd diweddar wrth i Tesco geisio agor siopau mewn rhannau eraill o Gymru
Mae cynghorwyr o blaid cael archfarchnad Tesco yn eu tref am y byddai'n denu mwy o siopwyr.

Os yw'r cwmni wedi wynebu gwrthwynebiad wrth geisio agor siopau mewn ardaloedd eraill, mae Cyngor Tref Pontarddulais yn cefnogi cais Tesco.

Bydd swyddogion cynllunio Cyngor Abertawe yn mynd i'r safle yr wythnos nesaf.

Dywedodd y cynghorydd a'r cigydd John Mathias y gallai archfarchnad ddenu mwy o bobl i siopa'n lleol.

Bu gwrthwynebiad wrth i Tesco geisio agor siopau yng Nghaerfyrddin, Y Drenewydd, Rhuthun a Llanbedr Pont Steffan a phobl leol yn dweud y byddai'n effeithio yn andwyol ar siopau bach.

'O blaid'

Dywedodd Maer Pontarddulais Gail Bateman: "Mae'r rhan fwya o gynghorwyr o blaid cael Tesco yma."

Dywedodd Tesco, sy am godi siop 4,500 metr sgwr ar dir diffaith ger Heol yr Orsaf, y byddai 280 o swyddi'n cael eu creu.

Bydd swyddogion cynllunio'r cyngor yn ymweld 'r safle ddydd Mercher a phenderfyniad ar y cais ddydd Iau.

Ychwanegodd Mr Mathias: "Mae llawer o bobl yn gadael i siopa yn Llanelli neu Fforestfach - os yw Tesco fan hyn fe fydd pobl yn sefyll yn y dre.

"... os yw 10,000 yn mynd i Tesco mewn wythnos a 100 yn dod i 'yn siop i, bydda i'n hapus."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^