Mae'r rhagair yn annog gweithwyr mudol i ddysgu'r iaith
|
Yr angen i fewnfudwyr i ardaloedd Cymraeg ddysgu'r iaith fydd un o'r pynciau dadleuol dan sylw yng Nghyfarfod Blynyddol Undeb yr Annibynwyr yn Llandudno.
Mae'r mudiad yn cynrychioli mwy na 30,000 o aelodau, y mwyafrif llethol o'r rhain yn Gymry Cymraeg.
Bydd yna gynnig yn y gynhadledd ddydd Gwener yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau fod mewnfudwyr yn dysgu'r iaith.
Yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn annog mewnfudwyr i ddysgu Cymraeg.
Mae cynnig y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor yn dweud fod angen i'r llywodraeth wario mwy er mwyn helpu pobl i ddysgu'r iaith.
"Mae angen darpariaethau, cyfleodd iddyn nhw wneud hynny," meddai.
'Trin yn gyfartal'
"Ychydig iawn sydd yna o'i gymharu â'r hyn y mae llywodraeth Llundain yn ei wario ar ddysgu Saesneg.
"Dylai fod yr un egwyddor at y Gymraeg gan fod mwy nag un iaith yn y Deyrnas Unedig. Mae angen i bob iaith gael ei thrin yn gyfartal."
Dywedodd y Parchedig Aled Edwards, Comisiynydd Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, fod pecyn croeso i weithwyr mudo yn annog pobl i ddysgu Cymraeg yn ogystal â'r Saesneg.
Roedd tystiolaeth, meddai, fod ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches yn gwybod mwy am Gymru a'r iaith Gymraeg.
"Nid yn gymaint gyda'r genhedlaeth gyntaf, ond mae yna dystiolaeth fod yr ail genhedlaeth yn cael mwy o gyfle i ddysgu'r iaith.
'Angen polisi'
"Er enghraifft, yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd mae tua 9% o'r plant yno o grwpiau lleiafrifol.
"Ond byddwn yn cytuno gyda'r ffaith fod angen polisi ar y pwnc, a bod angen ei gyllido'n iawn."
Yn ystod y dydd bydd Undeb yr Annibynwyr yn trafod cau swyddfeydd post, a dyfodol y fferm deuluol.
Mae'r gynhadledd yn dod i ben ddydd Sadwrn.