BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Gorffennaf 2007, 12:28 GMT 13:28 UK
O Efrog Newydd i Aberystwyth
Syr Emyr Jones Parry
Mae Syr Emyr Jones Parry yn olynu'r Arglwydd Elystan Morgan i swydd y Llywydd

Mae Cynrychiolydd Parhaol Prydain yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd wedi cael ei benodi'n Llywydd newydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Mae Syr Emyr Jones Parry yn olynu'r Arglwydd Elystan Morgan i'r swydd.

Bydd yn dechrau ar ei waith ym mis Ionawr 2008.

Treuliodd Syr Emyr 30 mlynedd gyda'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad cyn cael ei benodi'n Gynrychiolydd Parhaol Prydain i Nato.

Symudodd i'w swydd bresennol fel Cynrychiolydd Parhaol Prydain y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd yn 2003.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor a Phrifathro Prifysgol Cymru, Aberystwyth: "Rwyf yn arbennig o falch fod person o'r fath fri rhyngwladol Syr Emyr wedi ei benodi'n Llywydd.

Doethuriaeth

"Bydd profiad Syr Emyr a'i amlygrwydd o bwys mawr i'r Brifysgol."

Yn wreiddiol o Sir Gr, bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, cyn astudio Ffiseg Ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hon yn fraint arbennig
Syr Emyr Jones Parry

Aeth ymlaen i ennill PhD mewn Ffiseg Polymerau yng Nghaergrawnt.

Ar l ymuno 'r Swyddfa Dramor aeth Syr Emyr i weithio i Uchel Gomisiwn Prydain yn Ottawa.

Yna, cafodd brofiad o weithio ar faterion Ewropeaidd gydag amrywiol sefydliadau ym Mrwsel a Llundain cyn dod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa Llywydd y Senedd Ewropeaidd am gyfnod.

Ymhlith y swyddi eraill y mae wedi eu dal yn y Swyddfa Dramor mae Pennaeth Adran y Gymuned Ewropeaidd, ac fe fu'n gyfrifol am bolisi, cydlynu a threfnu llywyddiaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

Wrth gael ei benodi i'r swydd diweddara dywedodd Syr Emyr, "Mae hon yn fraint arbennig ac rwyf yn edrych ymlaen at 2008."

Cafodd Syr Emyr ei urddo'n Gymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 2006.




HEFYD
Cymro yn ddyn y Cenhedloedd Unedig
23 Rhag 02 |  Newyddion
O Efrog Newydd i Langollen
08 Gorff 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^