BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Gorffennaf 2007, 06:58 GMT 07:58 UK
Niwro: 'Camgymeriad'
Llun cyffredinol o lawdriniaeth
Mae 'na bryder y bydd Cymru'n colli'r gwasanaethau wrth gadw'r ddwy uned

Mae meddyg amlwg yn awgrymu bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud "camgymeriad" wrth gadw dwy uned llawdriniaethau niwrolegol ar agor yn ne Cymru.

Dadl Richard Hatfield, ymgynghorydd yn y maes, yw y byddai'n fwy doeth canoli'r adnoddau gorau mewn un ysbyty.

Mae'n poeni y gallai cleifion orfod mynd i Loegr i gael llawdriniaethau o'r fath yn y dyfodol.

Penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad ddydd Mercher beidio â symud y llawdriniaethau niwrolegol o Ysbyty Treforys, Abertawe.

Roedd dadlau wedi bod ar ôl posibilrwydd o ganoli'r gwasanaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd, y byddai llawdriniaethau yn parhau yn y ddau ysbyty.

Mae Mr Hatfield, ymgynghorydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, wedi dweud fod penderfyniad Ms Hart yn "wleidyddol sinigaidd".

'Rhwystredigaeth'

"Mae ganddon ni ddwy uned sydd yn anghynaladwy ar hyn o bryd ac fe fydd cadw'r ddwy uned ar agor heb os yn arwain at eu methiant ac at symud y gwasanaethau i Fryste," meddai.

"Mae hwn yn benderfyniad gwleidyddol ... dydyn nhw ddim yn barod i wynebu'r realiti a chanoli gwasanaethau yn gynaladwy.

"Mae'r arbenigwyr yn cytuno mai un uned ddylai fod yn ne Cymru er mwyn sefydlogrwydd hir dymor ond dyw'r gwleidyddion ddim yn deall oblygiadau'r penderfyniad."

Mae Cymru'n rhy fach i gael popeth ym mhob ardal ...
Dr Ceri Phillips, Economegydd Iechyd

Dywedodd bod 'na rwystredigaeth o fewn y gwasanaeth a bod y syniad o ganoli'r gwasanaethau yn unfrydol er nad oedd consensws o ran lleoliad.

Cytunodd yr economegydd iechyd, Dr Ceri Phillips, nad oedd yn gynaladwy barhau gyda dwy uned niwrolegol yng Nghaerdydd ac Abertawe.

"Dyw'r penderfyniad ddim yn dangos bod y cynulliad yn meddwl am y dyfodol."

Dywedodd nad oedd hyn yn deg i bobl y gogledd fyddai'n gorfod cael triniaethau yn Lerpwl neu Fanceinion ac nad oedd cadw dwy uned fach yn y de yn gwneud "synnwyr ariannol".

"Mae Cymru'n rhy fach i gael popeth ym mhob ardal a rhaid sicrhau bod y gwasanaeth sydd ganddon ni'n dda," meddai.

Ym mis Gorffennaf 2006 awgrymodd adroddiad Comisiwn Iechyd Cymru y dylai'r gwasanaeth niwrolegol gael ei ganoli mewn un lle, Caerdydd.

Fe wnaeth ACau Plaid Cymru ac ACau Llafur etholaethau amgylch Abertawe wrthwynebu'r cynnig.




HEFYD
Niwro: Ymgyrchwyr yn dathlu
04 Gorff 07 |  Newyddion
Niwro: 'Angen ailystyried'
08 Tach 06 |  Newyddion
Niwro: Gwasanaeth i Gaerdydd
24 Tach 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^