Lynne Neagle: Y glymblaid 'yn gamgymeriad'
|
Mae pum aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur yn gyhoeddus wedi beirniadu'r glymblaid â Phlaid Cymru.
Y pump yw'r ACau Lynne Neagle, Ann Jones, Karen Sinclair ac Irene James a'r AS Kim Howells.
Mewn erthygl yn y Western Mail fe ddywedodd AC Torfaen Ms Neagle fod y rhai yn erbyn y glymblaid wedi cael eu hanwybyddu a'u sarhau.
Cyhuddodd Gweinidog y Swyddfa Dramor Dr Howells Rhodri Morgan o "helpu i roi ein cymunedau yn nwylo cenedlaetholwyr analluog ac arwahanwyr."
Fe fydd Llafur a Phlaid Cymru'n trafod dogfen "Cymru'n Un" mewn cynhadleddau arbennig dros y penwythnos.
Ni enillodd Llafur fwyafrif yn Etholiad y Cynulliad ar Fai 3.
Ond yr wythnos ddiwethaf fe gafodd clymblaid hanesyddol rhwng Plaid Cymru a Llafur ei chytuno mewn egwyddor.
Rhodri Morgan a Ieuan Wyn Jones wrth ghoeddi'r cytundeb
|
Fe fydd rhaid i'r cytundeb gael ei gymeradwyo yng nghynhadledd arbennig y Blaid Lafur ar Orffennaf 6 a chynhadledd Plaid Cymru ar Orffennaf 7.
Yn y Western Mail ddydd Mercher fe ddywedodd Ms Neagle ei bod hi'n poeni am y glymblaid.
'Niweidiol'
Roedd aelodau'r blaid, cynghorwyr ac Aelodau Seneddol, meddai, yn haeddu cael mynegi barn am benderfyniad mor bwysig.
Dywedodd fod y ddogfen yn "newid cyfeiriad sylfaenol ac yn niweidiol i wleidyddiaeth Cymru."
"Dwi'n credu ... y dylai llywodraeth leiafrifol Lafur sy yn gyfrifol, yn atebol ac yn fodlon gwrando ar y pleidiau eraill gael y cyfle i lwyddo," meddai
Fe ddywedodd Karen Sinclair, Ann Jones ac Irene James nad oedden nhw'n credu y gallai'r cytundeb roi sefydlogrwydd i bobl Cymru.
"Mae diffyg athroniaeth gyffredin rhwng y ddwy blaid a'r dyheadau gwahanol am ddyfodol Cymru yn golygu y bydd yn anodd i'r glymblaid barhau am bedair blynedd ...
'Troi cefn'
"Rydyn ni'n credu fod ... y ddogfen yn troi cefn ar yr hyn bleidleisiodd pobl drosto yn y refferendwm datganoli yn 1997."
Mewn llythyr i swyddogion Llafur ei etholaeth ym Mhontypridd fe anogodd Dr Howells iddyn nhw wrthod y glymblaid.
"Os yw'r cytundeb yn cael ei gymeradwyo ... fe fydd yn golygu y bydd Llafur yn y cynulliad yn gyfrwng i droi rhai elfennau o ddyheadau gwleidyddol Plaid Cymru yn ffaith." meddai Dr Howells.
"Mae'r dyheadau, wrth gwrs, yn ganolog i agenda'r cenedlaetholwyr.
"Yn y pen draw, maen nhw'n arwain at annibyniaeth."