Mae prinder adnoddau cyfrwng Cymraeg o'r fath
|
Mae meddalwedd newydd fydd yn cynnig cymorth i blant dyslecsig sy'n cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei lansio ddydd Mercher yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Mae'r meddalwedd, a elwir yn EdGair, yn rhaglen brosesydd geiriau syml.
Prosiect Dyslecsia Cymru, elusen sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ac yn creu adnoddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gyfer plant dyslecsig, rhieni ac athrawon, sy wedi comisiynu EdGair.
Yn ôl y Prosiect mae prinder adnoddau cyfrwng Cymraeg o'r fath yn y maes anghenion arbennig.
Mae EdGair yn medru llefaru'r geiriau ar y rhyngwyneb a'r dewislenni ac yn darllen yn uchel y geiriau sy'n cael eu teipio.
Mae'n defnyddio llais Cymraeg pwrpasol yn hytrach nac addasiad o lais Saesneg.
Problemau unigryw
Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru Bangor ddatblygodd y rhaglen ar ran Prosiect Dyslecsia Cymru.
Yn ôl Michael Davies, un o swyddogion Prosiect Dyslecsia Cymru, mae datblygu rhaglenni pwrpasol Cymraeg yn angenrheidiol wrth helpu plant sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae problemau plant dyslecsig sy'n siarad Cymraeg yn hollol unigryw oherwydd patrymau sillafu'r iaith, treigliadau ac yn y blaen," meddai.
"Dyw cwmnïau sy'n cyflenwi cyfarpar o'r fath yn yr iaith Saesneg ddim yn credu bod y farchnad Gymraeg yn ddigon mawr - ac felly rydym ni fel elusen yn gorfod chwilio am grantiau er mwyn eu datblygu."
Bydd y meddalwedd ar gael am ddim i ysgolion ar hyd a lled Cymru a gellir ei lwytho ar holl gyfrifiaduron ysgol.
Os am fwy o fanylion cysylltwch â Michael Davies. Ei gyfeiriad ebost yw
mdavies.ysgolgymraegbrynmawr.bg@webmail.digitalbrain.com.