BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2007, 14:08 GMT 15:08 UK
Gweinidog: 'Rhaid difa Shambo'
Shambo
Mae Shambo yn Nheml Skanda Vale yn Sir Gaerfyrddin

Mae'r Gweinidog Datblygu Gwledig Jane Davidson wedi penderfynu y dylid difa'r "bustach sanctaidd" Shambo.

Roedd profion ar y bustach wedi dangos fod y diciu arno a mynachod Teml Skanda Vale yn Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin, wedi brwydro i geisio ei achub.

Mae'r penderfyniad yn sicr o fodloni ffermwyr a'r gwrthbleidiau yn y cynulliad sydd wedi mynnu bod rhaid trin Shambo yn yr un ffordd da byw masnachol.

Roedd cyfreithwyr ar ran y mynachod wedi cyflwyno dadleuon cyfreithiol ac wedi cyfeirio at ddeddfau hawliau dynol.

Ac roedden nhw wedi rhoi manylion am sut y byddai Shambo yn cael ei gadw ar wahn a'i drin ac wedi dweud y byddai difa'n sarhad ar eu cred.

'Gwarchod iechyd'

Dywedodd y gweinidog ei bod yn "ymwybodol iawn o gryfer y teimladau ymhlith y gymuned yn y deml a'i chais i edrych ar l y bustach" ond ei bod wedi casglu bod rhaid difa Shambo "er mwyn gwarchod iechyd pobl ac anifeiliaid".

Cafodd rhybudd ei gyhoeddi ddeufis yn l yn fuan wedi i Shambo brofi'n bositif.

Cyn cyhoeddiad y gweinidog, roedd y Brawd Michael wedi dweud y byddai'r mynachod yn "ceisio cael gwaharddeb i rwystro'r gorchymyn i ddifa rhag cael ei weithredu cyn ceisio adolygiad brys yn yr Uchel Lys.

"Ac rydyn ni'n gobeithio na fydd rheithgor yn cael ei ddylanwadu gan ystyriaethau gwleidyddol."

Dywedodd nad oedd yn awyddus i weld protestio ond ei fod yn annog pererinion i fynd i'r deml i ddangos cefnogaeth.

"Mae hyn yn ymwneud 'r hawl i addoli Duw a sancteiddrwydd bywyd," meddai.

Mae Cyngor Hindw y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydden nhw'n cefnogi'r deml os oedden nhw'n cymryd camau cyfreithiol.




HEFYD
Ymdrech olaf i achub Shambo
29 Meh 07 |  Newyddion
Difa Shambo'n 'debygol'
26 Meh 07 |  Newyddion
Tair plaid: 'Rhaid difa Shambo'
08 Meh 07 |  Newyddion
Ymweld 'r 'tarw sanctaidd'
11 Mai 07 |  Newyddion
'Peidiwch difa'r tarw sanctaidd'
11 Mai 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^