Arolwg: 20% o Gymry'n ffafrio annibyniaeth
|
Mae'r mwyafrif o Gymry'n awyddus i aros yn rhan o Brydain, medd arolwg ar ran y BBC.
Dywedodd 68% o bobl a gafodd eu holi yng Nghymru eu bod nhw am aros yn rhan o Brydain, gyda dim ond 20% yn ffafrio annibyniaeth.
Dangosodd yr arolwg, a gafodd ei gomisiynu ar ran rhaglen Newsnight, fod 48% o bobl a gafodd eu holi yng Nghymru yn meddwl y byddai Cymru ar ei cholled yn ariannol petai'n gwahanu.
Dim ond 14% oedd yn credu y byddai'r wlad ar ei hennill.
Yn ddiwylliannol, mae 33% o'r Cymry ymatebodd i'r arolwg o'r farn y byddai Cymru ar ei hennill pe bai hi'n wlad annibynnol.
Dim ond 13% sy'n meddwl y byddai'r diwylliant Cymreig yn dirywio.
Rhan o Brydain
Mae cefnogi'r Deyrnas Unedig yn gryfach yn Lloegr - 74% o'r Saeson gafodd eu holi yn dweud nad oedden nhw am weld y berthynas rhwng y gwledydd yn newid.
 |
CANLYNIADAU'R AROLWG
68%yn cefnogi'r Undeb
20% o blaid annibyniaeth
48% yn credu y byddai annibyniaeth yn gwneud Cymru'n dlotach
33% yn credu y byddai annibyniaeth yn hwb i ddiwylliant Cymru
Ffynhonnell: Arolwg ffôn ORB ar ran BBC Cymru / Newsnight
|
Ymysg yr Albanwyr mae'r gefnogaeth yn fwy gwan, ond mae 56% ohonyn nhw yn dal i fod o blaid aros yn rhan o Brydain.
Drwy Brydain mae 'na gefnogaeth amlwg i Senedd annibynnol i Loegr yn sgîl datganoli yng Nghymru a'r Alban.
Mae 60% o'r rhai gafodd eu holi yn Lloegr eisiau Senedd eu hunain, a 52% o Albanwyr a 48% o'r Cymry yn cefnogi'r syniad.
Cafodd Cymru ei huno â Lloegr yn yr 16eg ganrif.
Cafodd yr arolwg ei gomisiynu am fod yr uno wedi ei "gwblhau'n llawn" 300 mlynedd yn ôl pan gafodd y Ddeddf Uno ei harwyddo gan Yr Alban.
Fe gafodd yr arolwg ei gynnal dros y ffôn ar ran rhaglen Newsnight y BBC rhwng Ionawr 5 ac 8, 2007.
Cafodd 527 o oedolion yng Nghymru, 883 yn Lloegr a 543 yn Yr Alban eu holi.