BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 1 Gorffennaf 2007, 15:13 GMT 16:13 UK
Morgan am sicrhau cefnogaeth
Rhodri Morgan a Ieuan Wyn Jones
Rhodri Morgan a Ieuan Wyn Jones wrth ghoeddi'r cytundeb

Mae Rhodri Morgan wedi dweud nad ydi o'n disgwyl gorfod dibynnu am gefnogaeth yr undebau i sicrhau clymblaid gyda Plaid Cymru.

Er mwyn i Llafur arwyddo'r cytundeb sydd wedi cael ei lunio, rhaid cael cefnogaeth mewn cyfarfod arbennig o aelodau Llafur ddydd Gwener.

Mae nifer o ASau Llafur yn amheus o'r cynlluniau ond dywedodd Mr Morgan y bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle i bawb o fewn y blaid gael lleisio barn.

"Dwi'n meddwl ein bod wedi bod yn hynod o ddemocrataidd a gofalus i drafod gyda'r blaid bob cam o'r ffordd," meddai ar raglen Maniffesto BBC Cymru.

Eglurodd bod y ddogfen, Cymru'n Un - y cytundeb rhwng y ddwy blaid - yn "cynnig llywodraeth sefydlog a blaengar ar gyfer pobl Cymru".

Daw ei ymateb, ar l i aelodau pwyllgor gwaith Plaid Cymru gefnogi'r ddogfen i ffurfio clymblaid gyda Llafur.

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth Mr Morgan ac Ieuan Wyn Jones gytuno mewn egwyddor ar y cytundeb hanesyddol.

Fe wnaeth y pwyllgor gwaith gyfarfod yn Rhaeadr ddydd Sadwrn ac roedd 'na gefnogaeth i'r ddogfen.

Fe fydd dogfen "Cymru'n Un" nawr yn mynd gerbron cyngor cenedlaethol y blaid ar Orffennaf 7.

Cafodd y cytundeb gefnogaeth ACau Llafur a Phlaid Cymru a phwyllgorau gwaith y ddwy blaid.

Yn y cyfamser mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod y "cam hanesyddol" yma yn rhoi cyfle iddyn nhw fod yn wrthblaid ym Mae Caerdydd.




HEFYD
'Pryderon difrifol' ASau Llafur
29 Meh 07 |  Newyddion
Clymblaid gam yn nes
27 Meh 07 |  Newyddion
Plaid ar daith i ganfod barn
22 Meh 07 |  Newyddion
Clymblaid: Pwysau ar Morgan
20 Meh 07 |  Newyddion
Plaid i barhau i drafod Llafur
16 Meh 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^