Doedd 63% o'r rhai gafodd eu holi ddim am weld deddf iaith newydd
|
Dyw mwyafrif pobl Cymru ddim o blaid Deddf Iaith newydd, yn ôl arolwg ar ran BBC Cymru.
Mae clymblaid Llafur a Phlaid Cymru wedi dweud y bydden nhw'n cyflwyno deddf newydd fyddai'n rhoi hawl i bobl dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Yn ôl arolwg ICM, roedd 24% o'r rhai gafodd eu holi yn credu y dylai pob busnes preifat yng Nghymru gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Roedd 10% arall am sicrhau fod y busnesau mwya yn gwneud hynny.
Ond roedd mwyafrif y rhai gafodd eu holi, 63%, yn dweud na ddylai'r ddeddf bresennol newid.
Mae'r ddeddf, ddaeth i rym yn 1993, yn rhoi'r un statws i'r Gymraeg a'r Saesneg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Ymgyrchu
Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu am newid y Ddeddf Iaith.
Dywedodd cadeirydd y mudiad, Hywel Griffiths, nad oedd y canlyniadau'n syndod am fod cwestiwn yn sôn am "orfodi".
"Pe bai'r cwestiwn yn cael ei aralleirio i gynnwys termau mwy cadarnhaol fel 'Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith a fyddai'n sicrhau fod gwasanaethau yn cael eu darparu yn ddwyieithog?' neu 'Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith fyddai'n rhoi hawliau llawn i bobl dderbyn gwasanaethau yn ddwyieithog?' yna rydyn ni'n sicr y byddai mwyafrif pobl Cymru o blaid," meddai.
Cafodd mwy na 1,000 eu holi ar gyfer arolwg ICM dros y ffôn rhwng Mehefin 19 a 21.