Mae'n bosib y bydd y traddodiad de gogledd yn dod i ben
|
Mae Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn dogfen sy'n argymell cynnal y brifwyl yn ne Cymru am ddwy flynedd yn olynol.
Fe fydd hyn yn torri ar y traddodiad o symud o'r de i'r gogledd am yn ail.
Cafodd y ddogfen, sy'n amlinellu lleoliadau arfaethedig y Brifwyl am y blynyddoedd nesaf, ei chyflwyno i aelodau o Gyngor yr Eisteddfod yn eu cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn trafod lleoliadau posib ar gyfer cynnal y brifwyl dros y blynyddoedd nesaf gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Yn ōl y rhestr mae 'na sawl awdurdod lleol yn awyddus i wahodd y brifwyl hyd at 2015.
Ar y cyfan mae'r safleoedd hynny yn newid rhwng y gogledd a'r de yn flynyddol.
 |
LLEOLIADAU POSIB Y BRIFWYL
2009 - Y Bala, Meirionnydd
2010 - Blaenau Gwent
2011 - Wrecsam
2012 - Bro Morgannwg
2013 - Sir Ddinbych
2014 - Sir Gār
2015 - Sir Fynwy
|
Ond yn 2014 a 2015 mae'r ddwy ardal sy'n cael eu hargymell, Sir Gār a Sir Fynwy, yn ne Cymru.
"Yn ddelfrydol rydym am weld yr Eisteddfod yn mynd i'r de a gogledd am yn ail," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
"Ond ambell waith mae'n mynd i fod yn anodd am y rheswm syml mai dim ond 6 awdurdod lleol sydd 'na yn y gogledd ac 16 yn y de.
"Rydan ni'n rhagweld yn gyffredinol y bydd y patrwm gogledd de bob yn ail yn parhau oni bai bod 'na ambell i eithriad."
Trafod uno seremonļau
Yn y cyfarfod hefyd bu trafodaeth ar uno dwy o'r prif seremonļau llenyddol.
Roedd Bwrdd yr Orsedd wedi gwrthod y syniad o uno seremonļau Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen.
Ond fe wnaeth Cyngor yr Eisteddfod ofyn i Bwyllgor Llźn yr Eisteddfod ail edrych ar y mater.
Penderfynwyd hefyd y bydd gweithgor o blith y Cyngor yn cael ei sefydlu i helpu i ddatblygu'r Brifwyl.
"Be sy'n digwydd ydi ein bod yn aeddfedu fel Bwrdd ac fel Cyngor i ffeindio be ydi rōl y ddau ac i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod i'r dyfodol," meddai Dafydd Whittall, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod.
"Mae 'na bobl ar y cyngor sydd ā phrofiadau eang iawn nid yn unig yn yr Eisteddfod ond tu allan hefyd ac mae'n bwysig ein bod yn casglu'r profiadau a'r syniadau er budd yr Eisteddfod."