Rhodd oedd darlun Renoir - La Parisienne - i'r amgueddfa
|
Am bedwar niwrnod mae rhai o drysorau Cymru yn cael eu harddangos 150 milltir i ffwrdd yn Llundain.
Prif atyniad casgliad arbennig fydd i'w weld yn Christie's Llundain fydd gwaith Renoir, La Parisienne.
Dydi'r gwaith ddim wedi gadael Amgueddfa Genedlaethol Cymru ers dros 20 mlynedd.
Bwriad yr arddangosfa yn Llundain yw codi ymwybyddaeth ac arian tuag at yr amgueddfa.
Mae'r digwyddiad bedwar niwrnod yn ddechrau ar flwyddyn o ddathliadau canrif o'r casgliad celf sydd gan yr amgueddfa.
Yn ogystal â gwaith Renoir mae 'na 30 o luniau, cerfluniau a gwaith ar bapur i'w gweld o ddydd Sul tan ddydd Mercher yn Christies.
Mae'r llun yn rhan o gasgliad o luniau i'r amgueddfa gan y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies.
Roedd hefyd yn brif atyniad arddangosfa o waith yr Argraffiadwyr (Impressionists) yn 1874, yn ôl yr amgueddfa.
Cefnogaeth
Bydd gwaith Cezanne, Midday L'Estaque (1879) a darlun Monet o San Giorgio Maggiore by Twilight o 1908 i'w gweld yn Llundain hefyd.
Bwriad yr amgueddfa ydi codi arian ar gyfer ailddatblygu eu harddangosfa ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Castell Dolbadarn gan Richard Wilson
|
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi grant tuag at eu gwaith ond mae angen £1.7 miliwn ychwanegol ar gyfer arddangosfa erbyn 2009.
Ond ychwanegodd yr amgueddfa eu bod am godi ymwybyddiaeth o'r gwaith celf gain sydd ar gael i ymwelwyr yng Nghymru.
"Cyfle i weld y trysorau sydd ar gael yng Nghymru ydi hyn," meddai Michael Houlihan, cyfadwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru.
"Ein gobaith ydi y cawn gefnogaeth i'n gwaith."
Fe fydd lluniau gan arlunwyr o Gymru i'w gweld yn Llundain hefyd.
Un ohonyn nhw ydi llun Richard Wilson o Gastell Dolbadarn ac mae gwaith arlunwyr mwy diweddar fel Gwen John, Lucien Freud a David Hockney hefyd yno.