BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 13 Ionawr 2007, 15:53 GMT
Ordeinio menywod: Dathlu a phryder
Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Roedd 'na wahoddiad i holl drigolion Tyddewi ymuno â'r dathlu

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn dathlu 10 mlynedd ers ordeinio offeiriaid benywaidd yng Nghymru.

Ond mae 'na bryder nad yw digon o fenywod yn cael eu hordeinio.

Fe fu pob esgobaeth yn nodi'r garreg filltir yn ei ffordd ei hun.

Cafodd pobol yn esgobaeth Tyddewi wahoddiad i'r Eglwys Gadeiriol ar gyfer gwasanaeth brynhawn Sadwrn.

Esgob Tyddewi, Y Gwir Barchedig Carl Cooper, wnaeth arwain y gwasanaeth a'r Parchedig Jane Wigley oedd yn pregethu.

Roedd hi ymhlith 12 menyw a gafodd eu hordeinio yn 1997 yn Nhyddewi.

Erbyn hyn mae 27 offeiriad benywaidd yn esgobaeth Tyddewi, allan o gyfanswm o 157 yng Nghymru.

Ond dydi'r un fenyw wedi cael ei phenodi'n Esgob yng Nghymru ers cychwyn ordeinio merched.

'Pawb yn gytûn'

Dywedodd y Parch Mandy Williams-Potter, Caplan a Swyddog Cyfathrebu Esgob Tyddewi: "Roedd gwrthwynebiad mawr 10 mlynedd yn ôl ond nawr mae pawb yn gyfarwydd â gweld offeiriaid benywaidd, a phawb fwy neu lai yn gytûn.

"Mae'r weinidogaeth wedi gwella o ganlyniad i hyn, yn sicr, ond rydyn ni o hyd yn brin o fenywod a phobl ifanc."

Deon Caerlŷr, Y Gwir Barchedig Vivienne Faull, yn Llanelwy
Roedd Deon Caerlŷr, Y Gwir Barchedig Vivienne Faull, yn y gwasanaeth yn Llanelwy

Fe wnaeth y Gwir Barchedig Vivienne Faull, Deon Caerlŷr ac un o offeiriad benywaidd mwya blaenllaw Eglwys Lloegr, ymuno â gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy brynhawn Sadwrn.

Yn ei phregeth fe gwestiynodd a ydi'r sefyllfa wedi newid mewn gwirionedd ynteu a yw merched ond yn dilyn yr hen drefn wrywaidd.

Hefyd fe ddywedodd bod angen mwy o newidiadau o fewn yr eglwys ond ei bod yn ffyddiog bod newidiadau angenrheidiol yn dechrau digwydd.

Bydd cynhadledd yng Ngholeg San Mihangel, Llandaf, rhwng Ionawr 22 a 24 yn ystyried, ymhlith pethau eraill, pam nad yw mwy'n cael eu denu i'r Eglwys.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^