BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Ionawr 2007, 14:05 GMT
Cofio'r Cymro, 'y gyrrwr gorau'
Tom Pryce
Tom Pryce: "Gallai fod wedi bod yn bencampwr byd'

Mae Cyngor Tref Rhuthun am gofio un o enwau mawr y byd rasio ceir.

Cafodd Tom Maldwyn Pryce ei ladd 30 mlynedd yn l ar l damwain yn Grand Prix De Affrica.

Yng nghanol y saithdegau roedd y Cymro Cymraeg yn enwog drwy'r byd ym myd rasio ceir Formula 1.

Roedd ffrind bore oes iddo, Cledwyn Ashford, yn ei gwmni pan gafodd un o'i fuddugoliaethau enwoca yn 1975.

"Y peth gora weles i oedd fo'n ennill Ras y Pencampwyr yn Brands Hatch.

"Roeddwn i yno, yn y pit efo'i dad. Diwrnod bendigedig.

"Daeth o allan o'r car fel tasa fo'n unrhyw ddiwrnod arall, doedd na ddim ffws efo fo.

"Pan wnaeth o ennill y ras roedd o wir yn bencampwr."

Cofio'r gyrrwr

Ond yn 27 oed fe fu farw pan gafodd ddamwain.

Ym Mawrth 1977 cafodd ei ladd yn y Grand Prix pan fu ei gar mewn gwrthdrawiad swyddog, Cafodd y swyddog ei ladd.

Tom Pryce
Tom Pryce yn Brands Hatch yn 1975

"Aeth dau gynghorydd i weld rhieni Tom Pryce ac roedden nhw'n bendant yn gefnogol i fynd ati i drefnu rhyw fath o weithgaredd," meddai Gwilym Evans ar ran y cyngor.

"Mae angen rhyw ffordd i nodi ei gyfraniad a'r enw a wnaeth iddo'i hun a'r sylw ddaeth i Ddyffryn Clwyd.

"Fe fyddwn yn gofyn am gefnogaeth y cyhoedd, ... yn gofyn am syniadau drwy lythyr neu e-bost sut i gofnodi'r achlysur."

Roedd y gyrrwr yn un arbennig o dda.

'Gorau yn y byd'

"Yn ei gyfnod o'r dechrau roedd yn cael ei gyfri fel un o'r goreuon yn y maes," meddai Dewi Rogers sy'n ysgrifennu cyfrol amdano.

"O fewn tair blynedd a hanner mi aeth o o'i ras gyntaf i rasio Fformiwla 1.

"Ar y pryd hwn oedd y cyfnod cyflyma."

Dywedodd Mr Ashford bod Pryce yn un o oreuon y byd.

"Petai wedi cael byw fe fyddai'n bencampwr byd. Does dim dwywaith.

"Mae'n bwysig cofio amdano. Byddai ei rieni yn falch iawn a fo hefyd - bod ei ardal enedigol yn ei gofio ar l yr holl flynyddoedd."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^