BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Mehefin 2007, 06:10 GMT 07:10 UK
Ymdrech olaf i achub Shambo
Shambo
Mae Shambo yn byw yn Nheml Skanda Vale yn Sir Gaerfyrddin

Mae mynachod sy'n gobeithio achub "bustach sanctaidd" rhag cael ei ddifa wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Cynulliad.

Dydd Mawrth dywedodd y Gweinidog Datblygu Gwledig Jane Davidson ei bod hi'n "dueddol o gredu" y dylid difa Shambo a bod angen i fynachod Teml Skanda Vale yn Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin, ymateb erbyn dydd Gwener.

Mae'r bustach wedi profi'n bositif i'r diciu.

Erbyn hyn mae cyfreithwyr ar ran y mynachod wedi cyflwyno dadleuon cyfreithiol ac wedi cyfeirio at ddeddfau hawliau dynol.

Maen nhw wedi rhoi manylion am sut y byddai Shambo yn cael ei gadw ar wahn a'i drin.

Roedden nhw wedi dweud y byddai difa'n sarhad ar eu cred.

Cafodd rhybudd ei gyhoeddi ddeufis yn l yn fuan wedi i Shambo brofi'n bositif.

Dywedodd y Brawd Michael fod y mynachod wedi ysgrifennu at Ms Davidson i egluro eu safbwynt.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn sylweddoli ... nad yw ein hanifeiliaid ni'n yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd."

Ychwanegodd y bydden nhw'n "ceisio cael gwaharddeb i rwystro'r gorchymyn i ddifa rhag cael ei weithredu cyn ceisio adolygiad brys yn yr Uchel Lys.

"Ac rydyn ni'n gobeithio na fydd rheithgor yn cael ei ddylanwadu gan ystyriaethau gwleidyddol."

Dywedodd y Brawd Michael nad oedd yn awyddus i weld protestio ond ei fod yn annog pererinion i fynd i'r deml i ddangos cefnogaeth.

"Mae hyn yn ymwneud 'r hawl i addoli Duw a sancteiddrwydd bywyd," meddai.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai Ms Davidson yn penderfynu'n derfynol "cyn gynted phosib".

Mae Cyngor Hindw y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydden nhw'n cefnogi'r deml os oedden nhw'n cymryd camau cyfreithiol.




HEFYD
Difa Shambo'n 'debygol'
26 Meh 07 |  Newyddion
Tair plaid: 'Rhaid difa Shambo'
08 Meh 07 |  Newyddion
Ymweld 'r 'tarw sanctaidd'
11 Mai 07 |  Newyddion
'Peidiwch difa'r tarw sanctaidd'
11 Mai 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^