BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Mehefin 2007, 11:19 GMT 12:19 UK
Addysg uwch: Mwy o iaith
Myfyrwraig wrth ei gwaith
2005-6: 415 o staff academaidd yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae ystadegau'n dangos bod mwy o Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2005-06 roedd cynnydd o 6.5% yn nifer y myfyrwyr o Gymru mewn sefydliadau addysg uwch sy'n cael peth o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r cynnydd yn rhannol oherwydd mwy o staff academaidd sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn 2005-06 roedd 415 o staff academaidd yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r cynnydd oherwydd cyllid ar gyfer addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ysgoloriaethau a chymrodoriaethau.

'Calonogol'

Dywedodd Carwyn Jones, y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg: "Mae'r ystadegau'n galonogol iawn.

"Ac maen nhw'n dangos yn glir ein bod ni'n dechrau gweld gwrthdroi'r gostyngiad mewn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes addysg uwch."

Hyd yn hyn, meddai, roedd rhyw £5 miliwn wedi eu clustnodi ar gyfer rhoi ar waith argymhellion adroddiad grŵp llywio cyfrwng Cymraeg Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.




HEFYD
'Angen dyblu ysgolion Cymraeg'
30 Ebr 07 |  Newyddion
Addysg Gymraeg: O dan y lach
20 Maw 07 |  Newyddion
Ffrae ynglyn â dyfodol ysgolion
19 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^