BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Mehefin 2007, 06:05 GMT 07:05 UK
I'w derbyn i'r Orsedd 2007

Caiff nifer o Gymry eu hanrhydeddu i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fflint a'r Cyffiniau.

Dyma'r manylion llawn.

I'w hurddo fore Llun 6 Awst 2007 yn yr Eisteddfod ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:

Urdd Cerddor

John Innes Edwards, Mus. Bac., Rhosmeirch.

Urdd Llenor

lestyn Rhys Davies, BA, Llanfairpwll
Gwen Saunders Jones, BA, Marian Glas
Adrian Morgan, BA, Pontarddulais
Leila Mair Salisbury, BA, Llangynog
Heather Ann Shilvock, B. Add., Pwllheli
Angharad Williams, BA, Penderyn
Ffion Gwenllan Williams, BA, Yr Wyddgrug

Arholiadau Gorsedd y Beirdd 2007

Urdd leithydd (Gwisg Las)
Beth Davies, Gorrig, Llandysul, Ceredigion (Beth o'r Llan)

Urdd Cerdd Ofydd (Gwisg Werdd)
Elwyn Evans, Caeredin (Sir ap Oswyn)

Urdd laith Ofydd (Gwisg Werdd)
Richard Garner Williams, Caerdydd (Richard y Llan)
Gillian Taylor Walker, Pwllheli (Gill Caeron)

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Ddinbych 2006.
Manon Wyn, Caernarfon - y Fedal Lenyddiaeth
Gwenno Mair Davies, Llansannan - y Goron
Eurig Salisbury, Llanfarian, Aberystwyth - y Gadair

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch, 2006

Urdd Ofydd er Anrhydedd:

Esyllt Tudur Davies, Llanrwst -Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
Stuart Imm, Cwmbrn - Dysgwr y Flwyddyn
Dafydd Wyn Jones, Ystrad Meurig - Unawd Cerdd Dant dros 21 oed
Enfys Gwawr Loader, Abertawe - Gwobr Richard Burton
Rhian Lois, Ystrad Meurig - Gwobr Goffa Osborne Roberts
Medwen Parry, Aberdaron - Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Gwynfor ab Ifor, Tregarth - Y Gadair
Fflur Dafydd, Caerfyrddin - Y Fedal Ryddiaith
Aled Rhys Hughes, Rhydaman - Medal Aur Celfyddyd Gain
Gwen Pritchard Jones, Pant Glas - Gwobr Goffa Daniel Owen

I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd air Eisteddfod

Hilma Lloyd Edwards (Alawes Bodellog), Bontnewydd
Alun Morgan Lloyd (Alun), Llandybie
Alun Thomas (Alun o Galedfwlch), Basaleg
David Eifion Thomas (Eifion Elli), Llanelli

I'w hurddo fore Gwener 10 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007:

Urdd Ofydd er Anrhydedd

Elinor Talfan Delaney
Fe'i ganed yn y Barri ond treuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd yn Llundain gan roi cyfraniad amlwg i fywyd Cymry Cymraeg y ddinas. Ymhlith ei llu o weithgareddau bu ei gweithgarwch gydag Ysgol Gymraeg Llundain yn allweddol a heb ei hymroddiad llwyr a didwyll hi ni fyddai'r ysgol wedi parhau.

Trefor Lloyd Hughes, Caergybi
Bu'n flaenllaw mewn llywodraeth leol, ac yn arbennig yn ei waith gyda'r gwasanaeth Ambiwlans ym Mn. Dros ddeugain mlynedd bu'n gweinyddu gwahanol gynghreiriau pl-droed ac yn ei dro bu'n gadeirydd ac yn drysorydd Pwyllgor Cyllid Cymdeithas Pl-droed Cymru, gan frwydro i sicrhau statws cyfartal i'r Gymraeg o fewn y corff hwnnw.

Alun Ifans, Maenclochog
Prifathro eang iawn ei ddiwylliant. Yn ei ysgol yng Nghas-mael bu ei frwdfrydedd yn fodd i sicrhau dyfodol Cymreictod mewn bro dan fygythiad. Adlewyrchir ei serch at gelfyddyd ar furiau'r ysgol. Bu'n egniol fel Cadeirydd Pwyllgor Celf a Chrefft y Genedlaethol yn 2002, a chyda threfnu canmlwyddiant geni Waldo.

Gwenda John, Blaenffos
Ers blynyddoedd bu'n hyfforddi unigolion a pharton chorau ar gyfer eisteddfodau a chyngherddau. Cafodd lwyddiant nodedig yn cyflwyno i blant a phobl ifanc gelfyddyd Cerdd Dant, crefft gymharol ddieithr gynt yn Sir Benfro. Oherwydd arbenigrwydd ei gweithgarwch fe'i gwnaed yn Llywydd Anrhydeddus Gŵyl Gerdd Dant 2005.

Aeryn Owen Jones, Dinmael
Ffermwr a chrefftwr nodedig sy'n rhagori fel waliwr cerrig a phlygwr gwrych. Ond mae Cymru gyfan yn gwybod amdano fel difyrrwr ac adroddwr ac eisteddfodwr heb ei ail. Bu'n un o'r cystadleuwyr mwyaf cyson drwy Gymru gyfan, gan ennill llu o wobrau mewn eisteddfodau taleithiol a chenedlaethol.

Helga Martin, Ysbyty Ifan
Yn hanu o'r Swistir cafodd ei magu yn Yr Almaen. Yn dilyn gwahanol swyddi yn Lloegr ymddeolodd yn gynnar i Ysbyty Ifan gan ymdaflu'n llwyr i fywyd Cymru a'r Gymraeg. Mae'n aelod llu o gymdeithasau a sefydliadau lleol a chenedlaethol gan danysgrifio i gylchgronau Cymraeg di-rif. Y mae ei hymroddiad i fywyd Cymru yn anhygoel.

Harri Parri-Roberts, Efailwen
Fel ei dad, y Parchedig R Parri-Roberts, fe saif yn gadarn dros draddodiadau gorau ardal y Preselau. Ymhlith llawer o weithgareddau mae'n ysgrifennydd ei eglwys, yn weithiwr cyson dros y papur bro, Clebran. Mae'n wirfoddolwr dros achos "Croesffordd Penfro" a bellach yn un o'u trefnyddion. Un o gymwynaswyr mawr ei fro.

Eifion Price, Rhydaman
Cerddor medrus y mae'r Urdd a'r Genedlaethol wedi elwa'n fawr ar ei gymorth yn hyfforddi a chyfeilio i genedlaethau o blant ac ieuenctid. Bu'n cyfeilio i barton dawns yr ardal. Mae'n rhan annatod o gwmni Jac-Y-Do sy'n diddanu a chynnal dawnsiau gwerin. Mae ei ddoniau gyda'r ffidil wedi ysbrydoli a difyrru llu drwy Forgannwg a Myrddin.

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Dyfrig John, Llundain
Pennaeth Banc HSBC ym Mhrydain ac Ewrop yn ogystal bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol ar Fwrdd Rheoli'r banc ledled y byd. Bu'r banc hwn ers blynyddoedd yn gwasanaethu'r Eisteddfod ac yn un o'i phrif noddwyr. Ar hyd ei yrfa lewyrchus ac eithriadol ddylanwadol, gartref a thramor, bu Dyfrig John yn arddel ei wreiddiau Cymraeg gyda balchder.

Alun Jones, Bow Street
Rhoddodd gyfraniad allweddol i Gymru ac i'r Gymraeg ym myd Addysg a'r Eisteddfod. Bu'n athro a darlithydd prifysgol ac ef er 1996 yw Prif Arholwr Safon Uwch Cymraeg. Mae'n awdur gwerslyfrau, yn diwtor a threfnydd cyrsiau, yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyson ac yn Gadeirydd Pwyllgor Llefaru Canolog yr Urdd.

Dr Hefin Jones, Caerdydd
Un o wyddonwyr disgleiriaf Cymru. Wedi profiad academaidd helaeth ym Mhrydain a thramor y mae bellach yn Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n olygydd ac awdur a darlledwr toreithiog mewn maes hollol greiddiol. Bu'n Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac yn Ysgrifennydd Ieuenctid Annibynwyr y Byd.

Yr Athro Bleddyn Jones, Barnt Green, Sir Gaerwrangon
Anodd fyddai mesur ei gyfraniad i fyd meddygaeth ym Mhrydain. Y mae'r Cymro diymhongar hwn bellach yn ymgynghorydd Oncoleg a Radio-bioleg yn Ysbyty Prifysgol Y Frenhines Elizabeth, gyda Chadair bersonol yn yr Ysgol Feddygol. Drwy ei lu o gyhoeddiadau dylanwadol cynyddwyd yn sylweddol wybodaeth am gancr a phelydrau.

Rhiannon Lloyd, Llandudoch
Rhoddodd oes o wasanaeth i Addysg Gymraeg, ac fe'i hanrhydeddir oherwydd arbenigrwydd ei chyfraniadau. Wedi cyfnod yn Bennaeth Adran bu'n Arolygwr ei Mawrhydi ac un sy'n cael ei pharchu gan bawb am ei harweiniad deallus. Y mae bellach yn Brifathrawes Ysgol Glantaf Caerdydd a hefyd yn aelod ar weithgareddau allweddol ynglŷn ag addysg uwch drwy'r Gymraeg.

Byron Rogers, Blakesley
Awdur dawnus eithriadol a fu'n golofnydd i'r Daily Telegraph, gan gyhoeddi hefyd mewn papurau Saesneg trymion eraill. Ers ymddeol cyhoeddodd lyfr bob blwyddyn am chwe blynedd gan gynnwys cofiant R S Thomas a The Lost Children, yn olrhain hanes Gwenllan, gan arwain at sefydlu Cymdeithas Gwenllan a gosod plac yn Sempringham.

Carys Tudor Williams, Caerdydd
Wedi cyfnod yn Llundain fe'i penodwyd yn aelod o dm athrawon "drama mewn addysg" Sir Fflint. Fel athrawes ddrama bu ei chyfraniad i ysgolion uwchradd a chynradd y sir yn enfawr wrth iddi hi hybu a chynhyrchu mewn ysgol a theatr. Rhoes flynyddoedd o weledigaeth ac arweiniad doeth yn gadeirydd Panel Drama'r Eisteddfod Genedlaethol.

Llŷr Williams, Pentrebychan, Wrecsam
Un o'r perfformwyr offerynnol gorau a welodd Cymru erioed. Wedi gyrfa golegol ddisglair cafodd lwyddiannau cyson gydag ymateb anhygoel i'w berfformiad cyntaf yng Ngŵyl Caeredin, 2003. Cafodd gymeradwyaeth syfrdanol gan adolygwyr cerddorol penna'r byd gydag un beirniad o Wlad Belg yn dweud: "Nid curo dwylo wnaethom ni ond codi mewn rhyfeddod. Dyma Schubert fel nas clywyd ef erioed o'r blaen."




HEFYD
Anrhyded yr Orsedd i Gymry
28 Meh 07 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^