Un o'r timau: 'Wythnos gyffrous'
|
Mae pedwar tîm yn cael eu cloi mewn adeilad yn Llangollen nes y bydd pedair ffilm yn barod ymhen wythnos.
Trefnwyd yr her gan Rêl Institiwt, Llanrwst, cymdeithas gelf a sefydlwyd yn 2000 sy'n trefnu digwyddiadau celf gyfoes yng ngogledd Cymru.
Bydd pob tîm yn cynhyrchu un ffilm fer.
Mae'r dasg gymaint yn anoddach oherwydd bydd rhaid i'r timoedd "ennill" actorion ac offer wrth chwarae gemau bwrdd bob nos.
Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos nos Sadwrn ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen.
'Actorion lleol'
Martin Smith, Paul Roberts, Chris Gage a Geoff Lloyd sy'n cynrychioli Dinbych.
"Does neb ohonon ni wedi cael hyfforddiant proffesiynol, ond rydyn ni gwneud llond dwrn o ffilmiau a defnyddio actorion lleol, gan gynnwys ffilm gafodd ei dangos yng Ngŵyl Caeredin" meddai Martin Smith.
"Roedd y syniad hwn yn gymaint o hwyl nes bod rhaid inni roi cynnig arni ac mae'n gyffrous i gael y cyfle i weithio gydag arbenigwyr gwahanol a defnyddio offer proffesiynol."
Aeth y timau i mewn i'r tŷ ddydd Mawrth a thrwy gydol yr wythnos bydd pob symudiad ar y we ac ar sgrin fawr ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen.
Dywedodd Sabine Cockrill o Rêl Institiwt fod y pedwar tîm wedi creu argraff oherwydd eu creadigrwydd, syniadau a brwdfrydedd.
"Bydd yr arbrawf yn ysbrydoli eraill i fynd ati i greu ffilmiau," meddai Ms Cockrill.